Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2022/23 Timeline Review

Cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 21)

21 Adolygu Amserlen Cynllun y Cyngor 2022/23 pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        Adolygu amserlenni ar gyfer Cynllun y Cyngor 22/23 yn dilyn cais gan y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r adroddiad ar adolygu’r amserlenni ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022-23 yn unol â chais y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf.  

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod yr amserlen yn ymwneud â Chynllun y Cyngor ar gyfer 2022-23 sy’n cynnwys dwyn rhai eitemau ymlaen y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw.   Roedd swyddogion yn canolbwyntio ar ddatblygu Cynllun pum mlynedd y Cyngor ar hyn o bryd a fyddai’n cynnwys rhagor o fanylion penodol mewn perthynas â defnyddio Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i nodi pynciau ar gyfer eu Rhaglenni Gwaith i’r Dyfodol.

 

Cafodd yr argymhelliad, a amlinellwyd yn yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd David Evans a’r Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

I gytuno ar Ran 1 Cynllun y Cyngor yn cael ei adolygu a diweddaru amserlenni i gwblhau.