Mater - cyfarfodydd

Co-opted Member of the Standards Committee

Cyfarfod: 27/09/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 34)

34 Aelod cyfetholedig o'r Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Ystyried a ddylid ailbenodi Aelod Annibynnol i'r Pwyllgor Safonau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro’r adroddiad ac eglurodd bod rhaid i’r Cyngor benodi pobl sydd ddim yn Gynghorwyr i’r Pwyllgor Safonau fel ei fod yn cael ei weld yn fwy annibynnol ac ar wahân i wleidyddiaeth fewnol y Cyngor. 

 

Bydd tymor mewn swydd un o’r aelodau cyfetholedig yn dod i ben ym mis Rhagfyr.  Roedd yr aelod yn gymwys i gael ei ail-benodi am dymor pellach. 

 

Yr aelod cyfetholedig oedd y Cadeirydd cyfredol y Pwyllgor ac roedd wedi gweithio’n galed yn y swydd ac wedi gwneud cyfraniad buddiol i lywodraethu’r Cyngor.  Roedd yn fodlon gwasanaethu am dymor pellach os oedd yn cael ei hail-benodi. 

 

Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Julia Hughes yn cael ei hailbenodi i’r Pwyllgor Safonau am bum mlynedd.