Mater - cyfarfodydd

Economic and Market Update, and Investment Strategy and Manager Summary

Cyfarfod: 31/08/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 20)

20 Iweddariad ar yr Economi a'r Farchnad a'r Strategaeth
Fuddsoddi a Chrynodeb Rheolwyr pdf icon PDF 106 KB

Darparudiweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad y Gronfa a Rheolwyr y Gronfa.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Mr Harkin y pwyntiau allweddol canlynol:

 

-       Pwysleisiodd y cyfnod anodd i’r holl asedau yn ystor y chwarter hyd at 30 Mehefin 2022 ac eithrio nwyddau oedd wedi perfformio’n gryf. Dros y cyfnod hwn, bu pwysau ar farchnadoedd ecwiti gyda thuedd am i lawr gan fod elw bondiau cynyddol yn golygu fod gwerth presennol enillion y dyfodol wedi gostwng.

-       Dros y chwarter, gwelwyd gostyngiad o tua £185 miliwn yng nghyfanswm gwerth y Gronfa ar y farchnad i £2,280.2 miliwn. Roedd yn credu bod asedau’r Gronfa wedi bod yn gryf yn ystod cyfnod anodd oherwydd y strategaeth buddsoddiad amrywiol yn gyffredinol.

-       Er hynny, roedd y ffigurau hirdymor ar gyfer perfformiad y Gronfa yn dal yn gryf ar sail gymharol ac roedd y Gronfa wedi cael ei gwarchod drwy’r strategaeth llwybr hedfan drwy amgylcheddau economaidd anodd. 

-       Yr her fwyaf i’r Gronfa ar hyn o bryd yw pwysau chwyddiant oherwydd bod y gyfradd CPI 12 mis ar gyfer y DU wedi cynyddu i 9.4% ym mis Mehefin 2022. Roedd yn hanfodol sicrhau bod y Gronfa yn cael ei gwarchod, cymaint â phosibl, yn y tymor byr yn erbyn y math hwn o bwysau chwyddiant.

-       Y gobaith yw y bydd y syniadau cychwynnol am Ddatganiad y Strategaeth Fuddsoddi yn dod gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Tachwedd, ond ar hyn o bryd, roedd gan y Gronfa strategaeth fuddsoddi gadarn. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nododd y Pwyllgor berfformiad y Gronfa dros gyfnodau hyd at ddiwedd mis Mehefin 2022 ynghyd â diweddariad y Farchnad a’r Economi oedd yn gosod y sefyllfa yn effeithiol.