Mater - cyfarfodydd

Draft Annual Report including Accounts 2021/22

Cyfarfod: 31/08/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 14)

14 Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiynau Clwyd 2021/22 pdf icon PDF 87 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft a Chyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd ar gyfer 2021/22 i Aelodau’r Pwyllgor, er mwyn ei ystyried ac i wneud yr Aelodau yn ymwybodol o’r ymateb i lythyr Ymholiadau Archwilio 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cadarnhaodd Mrs Fielder fod adroddiad blynyddol 2021/22 i fod i gael ei gyhoeddi cyn 1 Rhagfyr 2022, oedd yn cynnwys y cyfrifon archwiliedig. Diolchodd i Mercer am eu cefnogaeth i gynhyrchu’r Adroddiad Blynyddol oherwydd bod Cyfrifydd y Gronfa wedi gadael ym mis Ebrill 2022. Eglurodd Mrs Fielder fod Mr Ferguson, Swyddog Adran 151 y Gronfa wedi adolygu’r cyfrifon ac roedd ei sylwadau wedi cael eu hystyried. Cadarnhaodd hefyd fod y Gronfa’n cydymffurfio ag arweiniad y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) a gynhyrchwyd yn 2019 o’r enw “Paratoi Adroddiad Blynyddol” cyn belled â phosibl.

            Aeth Mrs Fielder drwy’r adroddiad blynyddol gan dynnu sylw at nifer o feysydd yn cynnwys y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Amlygodd adroddiad y Cynghorydd Annibynnol ac adroddiad y Bwrdd Pensiynau bod y polisi seiber wedi cael ei gymeradwyo, cynnydd rhagorol ar flaenoriaethau a thargedau buddsoddiad cyfrifol y Gronfa yn ogystal â’r gwelliant parhaus mewn gweinyddu er gwaetha’r cynnydd mewn niferoedd achosion.

-       Mae’r adroddiad gweinyddu yn atodiad 4 yn dangos, ers y pandemig, bod gweithwyr wedi parhau i weithio o gartref yn ystod 2021/22. Roedd cynhyrchiant yn parhau’n uchel ac roedd mwy na 31,000 o achosion wedi eu cwblhau yn ystod y flwyddyn. Cynyddodd nifer y cofrestriadau ar gyfer hunan wasanaeth aelodau o 36.1% i 48.4%. Roedd 52 o’r 54 cyflogwr yn y Gronfa bellach yn defnyddio iConnect.

-       Hyd at 31 Mawrth 2022, roedd y Gronfa wedi cynnal sefyllfa a gyllidir yn llawn yn unol â thudalennau 83 i 86 yr eitem Gyllid a Llwybr Hedfan. Gan fod y gronfa mewn blwyddyn werthuso, byddai’r sefyllfa gyllid yn cael ei hadolygu’n ffurfiol a byddai’r fframwaith rheoli risg yn monitro effaith chwyddiant a chyfraddau llog cynyddol fyddai’n parhau ar ôl diwedd y flwyddyn gyfrifo a bydd y rhain yn cael eu hystyried fel rhan o osod rhagdybiaethau.

-       Perfformiodd y Gronfa yn dda yn ystod y flwyddyn fel yr amlinellir ar dudalennau 85 i 103 gan y cyflawnodd y Gronfa enillion ar fuddsoddiad o 13.3% am y flwyddyn yn erbyn meincnod y Gronfa o 9.1%. Y cyfartaledd awdurdod lleol ar gyfer y ffigwr hwn oedd 8.6%. Mae hyn yn golygu fod y Gronfa yn ail ym mydysawd Cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cymheiriaid. 

-       Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd y portffolio syniadau gorau a gyflawnodd 20.3% a’r portffolio marchnadoedd preifat gydag enillion o 26.4% i gyd, ac o hynny roedd enillion ecwiti preifat yn 36.0% a’r portffolio effaith leol yn 40.3%. Ar y llaw arall, roedd enillion ecwitïau marchnadoedd byd-eang a marchnadoedd newydd yn 2.3%, oedd yn groes i enillion y flwyddyn flaenorol o 42.2% pan lwyddodd marchnadoedd preifat i wneud enillion o 4.6% yn unig.

-       Parhaodd y Gronfa i wneud ymrwymiadau i asedau marchnadoedd preifat gan ffafrio’r rhai ag effaith gynaliadwy neu gylch gwaith lleol.

-       Yn ystod y flwyddyn trawsnewidiwyd mwy o asedau i’r WPP, sef ecwitïau marchnadoedd newydd. Roedd y dyraniad strategol 10% yn awr yn cael ei reoli gan Russell Investments, oedd yn dod â chyfanswm buddsoddiadau’r Gronfa yn y WPP i  ...  view the full Cofnodion text for item 14