Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking

Cyfarfod: 12/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 24)

24 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i gael ei hystyried, gan amlinellu’r diwygiad arfaethedig canlynol:-

 

·         Y byddai adroddiad am Gontract Storfeydd yn cael ei ddwyn ymlaen a’i gyflwyno yn y cyfarfod nesaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer 16 Tachwedd

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at y camau gweithredu sy’n codi o’r cyfarfod diwethaf a dywedodd fod mwyafrif y camau gweithredu wedi’u cwblhau.  Ar gyfer y camau a oedd yn barhaus, eglurodd yr Hwylusydd fod sesiwn friffio ar gyfer pob Aelod wedi’i threfnu, a bod hysbysiad wedi’i anfon at Aelodau.  Roedd gwaith yn mynd rhagddo i nodi dyddiad ar gyfer ymweliad safle a byddai Aelodau’n cael gwybod pan fyddai dyddiad wedi’i gytuno.    

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Tina Claydon at yr eitem ar Dlodi a oedd wedi’i threfnu i’w chyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Ebrill 2023 ac awgrymodd ei bod yn cael ei dwyn ymlaen i gyfarfod cynharach.  Cytunodd yr Hwylusydd i gysylltu â’r swyddog perthnasol am hyn ar ôl y cyfarfod.

 

            Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’r Cynghorydd Rosetta Dolphin.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.