Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2023-28

Cyfarfod: 11/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 23)

23 Cynllun y Cyngor 2023-28 pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        I Cytuno y Blaenoriaethau, yr Is-flaenoriaethau a'r Amcanion Llesiant arfaethedig ar gyfer Cynllun y Cyngor 2023-28.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar y blaenoriaethau, yr is-flaenoriaethau a’r amcanion lles ar gyfer Cynllun y Cyngor 2023-28. Darparodd wybodaeth gefndir ac eglurodd fod ‘uwch-strwythur’ y Cynllun yn cynnwys 7 blaenoriaeth ac is-flaenoriaethau perthnasol. Roedd y 7 blaenoriaeth yn cymryd golwg hir dymor ar adfer, prosiectau ac uchelgeisiau dros y pum mlynedd nesaf. Roedd y blaenoriaethau a’r is-flaenoriaethau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor ynghlwm wrth yr adroddiad. Byddai Rhan 2 o Gynllun y Cyngor yn cael ei hystyried gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i sicrhau darpariaeth lawn o Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2023/28 a’i fesurau a’u targedau.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Ian Hodge a Teresa Carberry.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi blaenoriaethau, is-flaenoriaethau ac amcanion lles arfaethedig Cynllun y Cyngor 2023-28, fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.