Mater - cyfarfodydd

Renting Homes Wales Act

Cyfarfod: 16/11/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 4)

4 Deddf Rhentu Cartrefi Cymru pdf icon PDF 148 KB

Pwrpas:        Amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r ffordd y mae landlordiaid yng Nghymru yn gosod eu heiddo, a fydd yn cael eu cyflwyno ar 1 Rhagfyr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr - Rheoli Tai yr adroddiad i roi trosolwg o’r Ddeddf Rhenti Cartrefi newydd a’r newidiadau a fydd yn dod i rym o 1 Rhagfyr 2022.   Nod y Ddeddf yw symleiddio’r broses o rentu cartref yng Nghymru a rhoi mwy o wybodaeth i bartïon am eu hawliau a’u rhwymedigaethau.  

 

            Fe eglurodd yr Uwch-reolwr pan fydd y Ddeddf wedi cael ei rhoi ar waith yn llawn, fe fyddai’n creu system cwbl newydd i denantiaethau preswyl yng Nghymru.   Y bwriad oedd disodli’r trefniadau tenantiaeth fyrddaliadol sicr a threfniadau deiliadaethau amaethyddol sicr sydd ar waith ar hyn o bryd o dan Ddeddf Tai 1985 a Deddf Tai 1988. 

 

            Wrth dynnu sylw at y newidiadau sylfaenol yn y Ddeddf, dywedodd yr Uwch-reolwr y bydd tenantiaid a thrwyddedai yn dod yn ‘ddeiliaid contract’ ac y byddai cytundebau tenantiaeth yn cael eu disodli gyda ‘chontractau meddiannaeth’ o dan y gyfraith newydd. Byddai’n rhaid i Gontractau Meddiannaeth gael eu nodi mewn ‘datganiad ysgrifenedig’ a’i bwrpas oedd cadarnhau telerau’r contract.   Fe fyddai yna ddau fath o gontract fel a ganlyn:-

 

1.    Contract Diogel - Y bydd Sir y Fflint yn ei fabwysiadu fel landlord.

2.    Contract Safonol - A fydd yn cael ei ddefnyddio’n bennaf yn y sector preifat.

 

Fe fydd gweithredu’r Ddeddf newydd yn Sir y Fflint o 1 Rhagfyr yn golygu y bydd deiliaid contract newydd yn derbyn contract newydd, a bydd unrhyw ddeiliaid contract presennol yn cychwyn ar gyfnod o ymgynghori er mwyn eu hannog i drosi o’u tenantiaethau presennol i gontract er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau newydd.   Bydd cyfres o sioeau teithiol yn cael eu cynnal o fis Chwefror 2023 er mwyn egluro’r Ddeddf newydd i denantiaid.   

 

Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryder am rôl y Pwyllgor Craffu wrth ystyried yr adroddiad a rhoi adborth cyn cyfarfod y Cabinet yr wythnos ganlynol.  Nid oedd yn teimlo fod yna unrhyw gyfle i ddiwygio’r newidiadau sydd wedi’u cynnig yn y Ddeddf gan y byddai’n dod yn gyfraith ar 1 Rhagfyr.  Dywedodd na allai ddod o hyd i wybodaeth gefndir am yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a gofynnodd pa ymgynghoriad sydd wedi’i gynnal gan yr Aelod Cabinet ac Arweinydd y Cyngor drwy Lywodraeth Cymru (LlC) ar y newidiadau arfaethedig, ac a oedd ymgynghoriad wedi’i gynnal gyda’r tenantiaid cyn i’r newidiadau ddod i rym ar 1 Rhagfyr 2022. Mynegodd bryderon hefyd am gael gwared ar denantiaethau rhagarweiniol a oedd yn eu lle gan y Cyngor i gael gwared ar denantiaid gwael.

 

Dywedodd yr Uwch-reolwr nad oedd hi’n ymwybodol o’r broses ymgynghori ond fe eglurodd fod y Ddeddf wedi dod yn gyfraith yn 2016 a bod LlC wedi oedi ei gyflwyno a gweithredu’r gyfraith tan 1 Rhagfyr 2022.  Fe eglurodd ei fod yn gyfraith roedd yn rhaid i’r Cyngor ei weithredu ac y byddai’r ymgynghoriad gyda phreswylwyr a thenantiaid yn sicrhau eu bod yn deall beth roedd y newidiadau yn eu golygu. Roedd yna newidiadau cadarnhaol o fewn y Ddeddf oedd yn ymwneud â rhoi mwy o hawliau i denantiaid a dwyn landlordiaid i gyfrif os nad oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 4