Mater - cyfarfodydd

Voids

Cyfarfod: 27/09/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 18)

18 Rheoli Gwagle pdf icon PDF 311 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar eiddo gwag a’r gwaith a wneir i ailddefnyddio’r eiddo yma.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai adroddiad i ddarparu diweddariad ar reoli unedau gwag a chyflawniad.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai a Rheolwr Gwasanaeth - Rheoli Tai, Gwasanaethau Budd-daliadau gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl gyflwyniad a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:-

 

  • Cartrefi Gwag
  • Targedau a chostau cartrefi gwag
  • Trosiant ac ôl-groniad cartrefi gwag
  • Rheoli Ystadau
  • Proses diwedd i ddiwedd
  • Adnoddau - Staffio
  • Adnoddau - gweithgareddau gwella staffio
  • Adnoddau - cyllidebau
  • Adnoddau - gweithgareddau gwella cyllideb
  • Adnoddau - ailwampio
  • Adnoddau - gweithgareddau gwella ailwampio
  • Trosolwg ac Adrodd

 

Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin, cytunwyd y byddai copi o’r cyflwyniadau yn cael eu dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.  Hefyd rhoddodd y Cynghorydd Dolphin enghreifftiau i eiddo gwag yn ei ward a oedd wedi bod yn wag ers cyfnod hir iawn, a rhoddodd sylw ar yr angen i newid eiddo yn gynt i sicrhau refeniw parhaus i’r Cyngor. 

 

Mewn ymateb i bryderon gan y Cynghorydd Pam Banks ynghylch mater yn ei ward ac arhosiad am eiddo, gofynnodd y Rheolwr Gwasanaeth - Rheoli Tai, Gwasanaethu Budd-daliadau gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl i’r Cynghorydd Banks ddarparu manylion iddi ar ôl y cyfarfod fel y gellir edrych ar y mater hwn ymhellach.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ted Palmer os oedd yno gontractwyr mewnol ychwanegol y gellir eu defnyddio.  Hefyd gofynnodd sut y gellir gwella cyfraddau ynni i’r eiddo hyn a oedd wedi’u dyrannu’n barod.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai bod timau eiddo gwag mewnol a oedd yn cael eu dyrannu i gyflawni mân waith.  Hefyd darparodd fanylion am brosiect peilot ynghylch di-garboneiddio’r stoc dai ym Mostyn, ac ychwanegodd bod y gwaith hwn wedi’i gynnwys o fewn gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Dave Evans bod y Pwyllgor yn ymweld ag eiddo gwag pan mae’n dod yn wag, a hefyd eiddo gwag sydd wedi’i ailwampio’n ôl i ddefnydd er mwyn gweld safon y gwaith a gyflawnir.  Hefyd cyfeiriodd at yr argyfwng costau byw a gofynnodd pa welliannau a gafodd eu gwneud i eiddo i gadw costau’n îs i denantiaid.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai bod yr holl foeleri, gwresogi a insiwleiddiad atig yn cael eu hasesu’n dda ar y cam gwag, ac ychwanegodd os byddai newid i bympiau gwres yr awyr yn opsiwn hyfyw i’r eiddo, yna byddai hynny yn cael ei asesu ar adeg pan mae’r eiddo’n wag hefyd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin os oedd myfyrwyr coleg yn cael eu cyflogi i gynorthwyo i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.   Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai bod y Cyngor wedi cysylltu gyda’r coleg ac yn hwyluso myfyrwyr sydd yn cyflawni gwaith ymarferol fel rhan o’u cwrs. 

 

Cododd y Cynghorydd Dale Selvester bryderon ynghylch yr amser mae’n cymryd i gofrestru mesuryddion gyda chwmniau ynni, a oedd yn ychwanegu at yr oedi i ddyrannu eiddo gwag.  Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai bod y tenant yn flaenorol yn gorfod cysylltu gyda’r cwmniau ynni yn uniongyrchol  ...  view the full Cofnodion text for item 18