Mater - cyfarfodydd
Audit Wales Review of Commissioning Older People's Care Home Placements by North Wales Councils and Betsi Cadwaladr University Health Board
Cyfarfod: 28/09/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 26)
Cydnabod adroddiad Archwilio Cymru a nodi argymhellion yr adroddiad ar Leoliadau Cartrefi Gofal ar gyfer Pobl H?n.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Project Brief, eitem 26 PDF 831 KB
- Enc. 2 - Audit Wales report, eitem 26 PDF 1 MB
- Enc. 3 - NWales collective response, eitem 26 PDF 177 KB
- Enc. 4 - Audit Wales report to Welsh Government, eitem 26 PDF 845 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adolygiad Archwilio Cymru o Gomisiynu Lleoliadau Cartref Gofal Pobl H?n gan Gynghorau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad ar ganlyniad adolygiad Archwilio Cymru o Gomisiynu Lleoliadau Cartrefi Gofal i Bobl H?n gan gynghorau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Rhoddodd gefndir ar y trefniadau ar gyfer yr adolygiad, gyda'r diben yn tynnu sylw at nifer o bwysau parhaus o fewn gofal cymdeithasol. Roedd ymgysylltu helaeth ag Archwilio Cymru a chydweithwyr BIPBC wedi arwain at gyhoeddi’r adroddiad terfynol a oedd yn adlewyrchu golwg fwy cytbwys ar y sefyllfa ar draws Gogledd Cymru.
Wrth dynnu sylw at rôl y Pwyllgor, dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.
Darparodd yr Uwch Reolwr eglurhad manwl o'r gwaith a wnaed hyd yma i fynd i'r afael â'r pum argymhelliad gan Archwilio Cymru, ynghyd â dyddiadau cau diwygiedig ar gyfer cwblhau.
Eglurodd Gwilym Bury o Archwilio Cymru ei bod yn ofynnol i gynghorau a byrddau iechyd yng Nghymru gyflawni eu cyfrifoldebau statudol o fewn y fframwaith cyfreithiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC). Siaradodd am y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â strwythurau ffioedd a bennir yn genedlaethol a’u heffaith ar unigolion. Er y byddai'r cynllun gweithredu ar gyfer Gogledd Cymru yn helpu i fynd i'r afael â materion lleol, amlygodd adroddiad cenedlaethol ar wahân i LlC yr angen am ymyrraeth i osgoi parhad ac uwch gyfeirio materion mwy sylfaenol. Fel y nodwyd mewn adroddiad blaenorol, roedd Archwilio Cymru o’r farn nad oedd y trefniant cronfa gyfun bresennol i gefnogi’r gwaith o gyflawni swyddogaethau llety cartrefi gofal ar draws y rhanbarth yn darparu gwerth am arian nac unrhyw un o’r buddion arfaethedig sy’n gysylltiedig â’r model cronfa gyfun. Fodd bynnag, barn cynghorau Gogledd Cymru a BIPBC oedd bod y trefniadau yn cydymffurfio â'r rhwymedigaethau. Diolchwyd i'r swyddogion am eu cyfraniadau i'r adolygiad.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Parchedig Brian Harvey ar recriwtio a chadw yn y sector gofal, siaradodd yr Uwch Reolwr am lwyddiant y broses recriwtio ar sail gwerth mewn cydweithrediad â phartneriaid. Pan ofynnwyd iddi am yr hyn a ddysgwyd o’r adolygiad, dywedodd fod cynnal perthnasoedd gwaith agos â darparwyr gofal yn ffactor allweddol mewn cynllunio strategol.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks fod yr adroddiad yn cydnabod y gwaith sylweddol a chymhleth a wneir gan bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ar draws y rhanbarth. Bu iddo sôn am y potensial ar gyfer mwy o gydweithio a chyfleoedd ar gyfer newid y mae LlC yn dylanwadu arnynt.
Mewn ymateb i sylwadau ar weithredu argymhellion, dywedodd Gwilym Bury y byddai cynnydd yn cael ei adolygu ar gam priodol a bod adolygiad dilynol o drefniadau ar draws Cymru gyfan yn debygol. Er bod y rhan fwyaf o gynghorau a byrddau iechyd yng Nghymru yn anghytuno â barn Archwilio Cymru ar y dull o ymdrin â threfniadau cyfuno cyllid, roedd cytundeb ar y cyd ar yr angen am newid cenedlaethol i ddatrys problemau cyllid cymhleth sy’n bod ers amser maith o fewn y system bresennol.
Yn dilyn cwestiynau gan Allan Rainford, rhoddodd ... view the full Cofnodion text for item 26