Mater - cyfarfodydd

Welsh Government’s Consultation on Proposals for new Bus Legislation

Cyfarfod: 12/07/2022 - Cabinet (eitem 9)

9 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gynigion ar gyfer Deddfwriaeth Bws Newydd pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        I gynghori’r Cabinet ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer deddfwriaeth bws newydd ac ymateb arfaethedig Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr eitem ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar y cynnig i gyflwyno deddfwriaeth newydd i newid y ffordd mae gwasanaethau bysiau’n cael eu cynllunio a’u gweithredu yng Nghymru, ac roeddent wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar sut y byddai’r system fysiau newydd yn cael ei chynllunio. Daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 24 Mehefin 2022.

 

Roedd Sir y Fflint wedi gofyn am estyniad i’r ymgynghoriad ar gyfer y weinyddiaeth newydd ac i sicrhau bod Aelodau etholedig newydd yn cael cyfle i ddysgu am y cynigion a rhoi ymateb. Yn unol â hynny, roedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno i roi estyniad byr y tu hwnt i ddyddiad cau’r ymgynghoriad, a fyddai’n sicrhau bod Aelodau Sir y Fflint yn cael cyfle i ymateb i’r cynigion.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod y cynigion deddfwriaethol yn cynnig newid y ffordd y mae gwasanaethau bysiau’n cael eu llywodraethu, eu cydlynu a’u gweithredu yng Nghymru. Bwriad Llywodraeth Cymru oedd sicrhau system fysiau oedd yn rhoi hwb i gydraddoldeb cymdeithasol ac a fyddai’n gallu darparu’r newid moddol sydd ei angen gan yr argyfwng hinsawdd. Un oedd yn cael ei llywodraethu a’i chynllunio i wasanaethu lles y cyhoedd, oedd yn cynnwys ardal ddaearyddol mor fawr â phosibl a chysylltiadau integredig llawn rhwng gwasanaethau gwahanol, gwasanaethau mor aml â phosibl a system docynnau a gwybodaeth syml, unedig a hawdd ei defnyddio dan y faner:  ‘Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn: cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru’.

 

Amlinellodd yr adroddiad y cynigion ar gyfer deddfwriaeth fysiau newydd a thynnodd sylw at rai o’r manteision a risgiau.

 

Wrth ymateb i sylw gan y Cynghorydd Healey, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod yr ymateb ffurfiol yn ddogfen hir ond ei bod wedi’i chrynhoi yn yr adroddiad. Ychwanegodd fod ymateb rhanbarthol yn cael ei gyflwyno hefyd, ynghyd â rhai gan y Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a bod pob un yn adlewyrchu’r risgiau a amlinellwyd yn ei adroddiad.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y cynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd i wasanaethau bysiau yng Nghymru yn cael eu croesawu, gan nodi rhai o’r risgiau a heriau yn yr adroddiad; a

 

(b)       Bod yr ymateb arfaethedig a gyflwynwyd gan Sir y Fflint i’r Ymgynghoriad Papur Gwyn yn cael ei gefnogi.