Mater - cyfarfodydd
Terms of Reference (S&HC OSC)
Cyfarfod: 28/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 12)
Pwrpas: |
Ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor. |
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 for Terms of Reference report, eitem 12 PDF 69 KB
- Appendix 2 for Terms of Reference report, eitem 12 PDF 78 KB
- Gweddarllediad ar gyfer CYLCH GORCHWYL
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Cymunedau ac Addysg adroddiad i ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor. Darparodd wybodaeth gefndir ac eglurodd fod cylch gorchwyl presennol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad a bod y newidiadau arfaethedig i'r cylch gorchwyl i'w gweld yn Atodiad 2.
Dywedodd yr Hwylusydd fod y cylch gorchwyl yn cael ei gyflwyno i bob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn ystod mis Gorffennaf. Yn dilyn hyn byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd i roi adborth gan bob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Byddai cylch gorchwyl y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedyn yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir i'w gymeradwyo a'i fabwysiadu o fewn y Cyfansoddiad. Tynnodd yr Hwylusydd sylw at baragraff 1.04 yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Tina Claydon.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r diwygiadau arfaethedig i’w gylch gorchwyl fel y nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad.