Mater - cyfarfodydd

Terms of Reference

Cyfarfod: 14/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 9)

9 Cylch Gorchwyl Y Pwyllgor pdf icon PDF 87 KB

Ymgynghori ar newidiadau arfaethedig ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod strwythur y Prif Swyddogion wedi newid fis Hydref y llynedd a bod angen diwygio’r Cylch Gorchwyl i gyd-fynd â’r newidiadau hynny.  Gofynnodd i’r aelodau ddarllen Atodiad 2 ar dudalen 26 o’r adroddiad lle’r oedd y newidiadau wedi’u hamlygu’n goch er cymeradwyaeth y pwyllgor.

 

Cynigiodd Mrs Lynn Bartlett ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad a eiliodd y Cynghorydd Gladys Healey y cynnig hwnnw. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor o blaid y diwygiadau arfaethedig yn ei gylch gorchwyl fel y’u nodwyd yn Atodiad 2.