Mater - cyfarfodydd
Council Plan 2022-23
Cyfarfod: 26/07/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 22)
22 Cynllun Y Cyngor 2022/23 PDF 112 KB
Pwrpas: I fabwysiadu Cynllun y Cyngor 2022/23 Rhan 1 a chymeradwyo Rhan 2.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Council Plan (Part 1) 2022-23, eitem 22 PDF 168 KB
- Enc. 2 - Council Plan (Part 2) 2022-23, eitem 22 PDF 265 KB
- Enc. 3 - Alignment to O&S Committees, eitem 22 PDF 191 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Y Cyngor 2022/23
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr y Cynllun Cyngor drafft ar gyfer 2022/23, oedd wedi'i adolygu a'i adnewyddu o ran ei gynnwys yn dilyn yr ymateb i'r pandemig a'r Strategaeth Adfer. Roedd fframwaith y Cynllun yn cynnwys chwe thema oedd yn cyd-fynd â’r Amcanion Lles ac a oedd yn parhau i gymryd agwedd hirdymor at adferiad, uchelgais a gwaith dros y flwyddyn nesaf. Wedi i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ymgynghori arno, roedd Rhan 1 yn adlewyrchu blaenoriaethau a chamau gweithredu ar gyfer 2022/23 ac roedd yn cynnwys eitem ychwanegol ar Wasanaethau Iechyd Meddwl. Byddai’r Cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi ar y wefan wedi i’r Cyngor ei fabwysiadu.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol fod Rhan 1 yn nodi uchelgeisiau lefel uchel ar gyfer 2022/23 a bod Rhan 2 yn nodi camau gweithredu, tasgau a mesurau cefnogol gyda manylion am sut y byddai cyflawniadau’n cael eu mesur a’u gwerthuso. Roedd Rhan 3 yn dangos sut oedd themâu’n cyd-fynd â Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu, ble byddai cynnydd yn cael ei fonitro.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones fod gosod mwyafrif y cerrig milltir ar gyfer mis Mawrth 2023 yn ei gwneud yn anodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fonitro cynnydd rheolaidd. Wedi trafod hyn yn flaenorol, roedd swyddogion eisoes wedi cytuno i adolygu cerrig milltir cyn cyhoeddi’r Cynllun. Tynnodd sylw at bwysigrwydd Cynllun y Cyngor yng nghyd-destun cynllunio ariannol a’r angen i sicrhau y gellir mesur eitemau ychwanegol. O ran y flaenoriaeth ‘amgylchedd lleol diogel, glân ac wedi’u cysylltu’n dda’, gofynnodd a fyddai gwaith gyda’r ddwy dref a nodwyd yng Nghynllun eleni hefyd yn dod â budd i drefi eraill drwy gydol y cyfnod.
Wrth gynnig mabwysiadu Cynllun y Cyngor 2022-23, diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i swyddogion am eu holl waith. Er mwyn ymdrin â sylwadau’r Cynghorydd Jones, awgrymodd y dylid gofyn i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu adolygu’r cerrig milltir ar gyfer eu meysydd penodol ar y cyd ag unrhyw argymhellion gan y Prif Swyddogion. Ar ran y gr?p Llafur, diolchodd i’r staff am eu hymroddiad a’u cryfder wrth fodloni heriau yn ystod y cyfnod hwn o Gynllun y Cyngor.
Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at ddiffiniad yr is-flaenoriaeth Tlodi Tanwydd o aelwydydd â chostau tanwydd uwch na’r cyfartaledd a gofynnodd a oedd hyn yn cynnwys pob aelwyd yn y sefyllfa hon neu ddim ond y rhai sy’n gysylltiedig â thai fforddiadwy a hygyrch. O ran risgiau cysylltiedig, holodd am y gostyngiad gwaelodlin mewn risgiau o gofio’r tebygrwydd y byddai mwy o aelwydydd yn cael eu heffeithio a gofynnodd sut y byddai ffrydiau ariannu yn cael eu blaenoriaethu oherwydd nad oedd cyllid ar gael fel y bu i ddarparu prosiectau tlodi tanwydd. O ran y flaenoriaeth Sector Rhentu Preifat i godi safonau mewn rheoli a chyflwr y tai, gofynnodd am sicrwydd na fyddai darpariaeth adnoddau’n dyblygu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan Rentu Doeth Cymru.
O ran Rhan 1 Cynllun y Cyngor, cynigiodd y Cynghorydd David Coggins Cogan y dylid newid y diffiniad o ... view the full Cofnodion text for item 22