Mater - cyfarfodydd

Welsh Government (WG) Programmes - summer of Fun, Winter of Wellbeing

Cyfarfod: 12/07/2022 - Cabinet (eitem 19)

19 Rhaglenni Llywodraeth Cymru - Haf o Hwyl, Gaeaf Llawn Lles pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar sut mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i helpu i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig a sut mae hynny wedi cael ei ddarparu ar draws amrywiaeth o wasanaethau a phartneriaid yn Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr eitem ac eglurodd fod Comisiynydd Plant Cymru wedi dechrau trafodaeth â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ystod gwanwyn 2021 am yr angen i ddarparu mynediad i blant a phobl ifanc at weithgareddau hwyliog i geisio lliniaru effaith y pandemig ar eu lles emosiynol, cymdeithasol a chorfforol.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig cyllid i awdurdodau lleol a sefydliadau cenedlaethol eraill i ddarparu ‘Haf o Hwyl’. Cafodd hyn ei ddarparu’n llwyddiannus yn Sir y Fflint ochr yn ochr â chynlluniau chwarae a chafodd adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ym mis Rhagfyr 2021. Arweiniodd llwyddiant y cynllun, a gafodd ei werthuso’n annibynnol, at fwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen ‘Gaeaf Llawn Lles’ dros y gaeaf 2021-2022 ac yn ddiweddar, mae wedi cadarnhau cyllid ychwanegol ar gyfer rhaglen ‘Haf o Hwyl’ arall eleni.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o ddarpariaeth y rhaglenni hyn gan y Cyngor ac adroddiad gwerthuso Llywodraeth Cymru. Roedd lleoliadau’n cael eu casglu ar gais y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a byddent yn cael eu rhannu ag Aelodau pan fyddant yn gyflawn.

 

Roedd y Cynghorwyr Johnson a Bithell yn croesawu’r ystod eang o weithgareddau oedd ar gael i blant a phobl ifanc dros yr haf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn cael sicrwydd bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint wedi elwa o gyllid Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Gaeaf Llawn Lles.