Mater - cyfarfodydd

Social Services – Resourcing and Staffing

Cyfarfod: 28/06/2022 - Cabinet (eitem 10)

Gwasanaethau Cymdeithasol - Adnoddau a Staffio

Pwrpas:        Ar gyfer cymeradwyaeth a chefnogaeth y Cabinet o’r argymhellion ar gyfer gweithlu drws ffrynt plant fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad, oedd yn rhoi trosolwg o’r gwaith rhagweithiol sy’n digwydd i wella’r dull o recriwtio, datblygu a chadw gweithwyr cymdeithasol profiadol ar draws y portffolio.  Roedd y gwaith yn cael ei lywio gan Gr?p Tasg a Gorffen oedd yn defnyddio dull o ymateb i bwysau gweithlu drwy’r portffolio cyfan.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Datblygu rôl ymarferwyr arbenigol mewn gwasanaethau plant ac oedolion i adlewyrchu’r arbenigedd, gwybodaeth, ymreolaeth a chymhlethdod y penderfyniadau y mae gofyn i ymarferwyr eu gwneud. Byddai angen ystyried y datblygiad hwn yng nghyd-destun confensiynau cyflog a graddau;

 

(b)       Cytuno ar dîm o weithwyr asiantaeth i gefnogi gwasanaethau drws ffrynt Plant wrth i ni ddatblygu a gweithredu ein cynllun i ailosod ac ailadeiladu ein gwytnwch;

 

(c)        Bod y Cyngor yn ceisio recriwtio gweithwyr cymdeithasol â chymwysterau a phrofiad priodol o dramor; a

 

(d)       Bod y Cyngor yn cydweithio ag awdurdodau cyfagos i ddatblygu dull unedig o recriwtio a chadw’r gweithlu yn cynnwys y posibilrwydd o daliad cadw/recriwtio a rhoi mentrau ar waith i reoli’r farchnad asiantaeth.