Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Outturn) and Capital Programme Monitoring 2021/22 (Outturn)

Cyfarfod: 07/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 11)

11 Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Alldro) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2021/22 (Alldro) pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Monitro Cyllideb Refeniw (alldro) a Monitro Rhaglen Gyfalaf (alldro) ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) adroddiadau ar sefyllfa derfynol 2021/22 ar gyfer monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

Ar Gronfa’r Cyngor, y sefyllfa ragweladwy ar ddiwedd y flwyddyn oedd arian dros ben gweithredol o £5.711 miliwn gan adlewyrchu symudiad ffafriol o £1.107 miliwn o fis 10 gan adael balans cronfa hapddigwyddiad ar ddiwedd y flwyddyn o £7.098 miliwn.  Dangoswyd amrywiadau o fis 10 yn yr adroddiad gan gynnwys manylion o symudiadau sylweddol.  Roedd yr adroddiad yn amlygu effaith sylweddol Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru (LlC) a ffrydiau cyllido colli incwm ar sefyllfa derfynol cyffredinol, yn ogystal â grantiau untro LlC i feysydd gwasanaeth cymwys.  Roedd trosolwg o’r risgiau o fewn y flwyddyn yn cynnwys symudiad cadarnhaol ar gasgliad Treth y Cyngor ac effaith cyllid ychwanegol LlC ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.  Adroddwyd ar sefyllfa well ar yr arbedion effeithlonrwydd cynlluniedig a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn yn 2021/22 a chronfeydd wrth gefn brys wedi’u neilltuo yn dilyn cynnydd yn setliad llywodraeth leol ar gyfer 2021/22.   Roedd y wybodaeth ychwanegol yn yr adroddiad yn egluro newid safle o ran arian dros ben gweithredol a chronfeydd hapddigwyddiad dros y pum mlynedd ddiwethaf.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant arfaethedig o £1.404 miliwn yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.616 miliwn, a oedd yn llawer uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellir.

 

Yn ôl cais y Cadeirydd, cytunodd y swyddogion i ddarparu crynodeb o’r sefyllfa ar Fis 10 ar gyfer dibenion cymharu.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2021/22 oedd £71.442 miliwn, gan ystyried bod yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion yn trosglwyddo’n ôl i’r rhaglen.  Roedd newidiadau yn ystod y chwarter olaf yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau ariannu grant ac ailbroffilio’r gyllideb.  Cyfanswm y gwariant gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn oedd £67.907 miliwn a oedd yn 95.05% o’r gyllideb, gan adael £3.535 miliwn o danwariant a argymhellwyd y dylid ei gario ymlaen ar gyfer cwblhau cynlluniau yn 2022/23.  Byddai dyraniadau ychwanegol a nodwyd yn y chwarter terfynol yn cael eu hariannu o’r Grant Cyfalaf Cyffredinol ychwanegol a ddyfarnwyd gan LlC ym mis Chwefror 2022.  Nodwyd cyfanswm arbedion o £0.370 miliwn ac roedd y sefyllfa derfynol wedi arwain at sefyllfa ariannol ddiwygiedig o arian dros ben o £2.068 miliwn, cyn ystyried y derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffrydiau cyllido eraill.

 

Cafodd yr argymhelliad cyntaf ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Vicky Perfect a Bill Crease.  Cafodd yr ail argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Ron Davies a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (y sefyllfa derfynol) fod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet; a

 

(b)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2021/22 (sefyllfa derfynol) fod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.