Mater - cyfarfodydd
Petitions received at Council
Cyfarfod: 24/05/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 13)
13 Deisebau sydd wedi dod I law'r Cyngor PDF 77 KB
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Cyngor am ganlyniadau deisebau sydd wedi cael eu cyflwyno dros y flwyddyn ddiwethaf
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i hysbysu’r Cyngor am ganlyniadau deisebau a oedd wedi eu cyflwyno dros y flwyddyn ddiwethaf. Dywedodd fod un ddeiseb wedi ei chyflwyno yn y Cyngor yn ystod 2020/21, ar 25 Mai 2021, a nodwyd yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhellion, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Jones.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.