Mater - cyfarfodydd

End of Year Performance Monitoring Report

Cyfarfod: 28/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 13)

13 CYNLLUN Y CYNGOR 2021-22 PERFFORMIAD DIWEDD BLWYDDYN (GCACI) pdf icon PDF 107 KB

Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a oedd yn adlewyrchu perfformiad yn chwarter olaf Cynllun y Cyngor 2021/22.

 

Roedd adroddiad sefyllfa derfynol ar gyfer Cynllun y Cyngor 2021/22 yn dangos bod 73% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da, a bod 74% yn debygol o gyflawni’r canlyniadau a gynlluniwyd. Roedd 73% o'r dangosyddion perfformiad wedi bodloni neu ragori ar eu targedau, roedd 9% yn cael eu monitro'n agos ac nid oedd 18% yn bodloni’r targed ar hyn o bryd. Nid oedd unrhyw ddangosyddion perfformiad (DP) yn dangos statws COG coch ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed, sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Gan gyfeirio at dudalennau 48 a 49 yr adroddiad, llongyfarchodd y Cynghorydd David Mackie y Prif Swyddog a'i dîm ar ragori ar y targedau cenedlaethol. Gwnaeth sylw hefyd ynghylch cyflawni’r targed ar gyfer Mesurau Diogelu (tudalen 54 yr adroddiad). 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.                  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi’r lefelau cynnydd a hyder wrth gyflawni

blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor 2021/22;

 

(b)       Cefnogi perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion

perfformiad Cynllun y Cyngor 2021/22; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.