Mater - cyfarfodydd

Social Media and Internet Safety

Cyfarfod: 14/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 11)

11 Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch Rhyngrwyd pdf icon PDF 120 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar bolisi a darpariaeth Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch Rhyngrwyd y Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, soniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ei fod yn dod gerbron y pwyllgor bob blwyddyn, ac amlygodd rai o’r prif bwyntiau. Roedd disgyblion ac ysgolion yn wynebu heriau mawr ac roedd hi’n bwysig eu bod yn cadw’u hunain yn ddiogel ar-lein. 

 

Gofynnodd i’r Aelodau droi at y prif bwyntiau yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys cyngor a chyfarwyddyd i ysgolion yngl?n â Chyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd.  Roedd gwybodaeth ar y safle Hwb yn hyrwyddo Offeryn 360° Safe Cymru i ysgolion a dymunai’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) i’r holl ysgolion ei ddefnyddio.  Soniwyd am Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a’r hyfforddiant yr oedd y Gwasanaeth Gwella Rhanbarthol (GwE) yn ei ddarparu, ynghyd â’r ffaith fod yr holl ysgolion yn medru defnyddio’r ffurflen bwlio ar-lein ac yn gwybod sut ddylid rhoi gwybod am hynny.  Esboniodd y Prif Swyddog y systemau TG ar gyfer hidlo’r we, a rhoes wybodaeth am y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion a’r “Addewid i Fod yn Glên Ar-lein”. 

 

Holodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) a oedd yr aelodau o’r farn y dylai’r adroddiad Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd ddal i fod yn rhan o’r adroddiad blynyddol ynghylch Diogelu mewn Addysg, ynteu a ddylid ei gyflwyno fel adroddiad ar wahân i’r pwyllgor, neu’n wir ei gyflwyno i’r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Yn sgil hynny dywedodd rhai o’r Aelodau y dylai’r adroddiad fynd gerbron y Cydbwyllgor fel y gellid cael trafodaeth ehangach.

 

Gofynnwyd i’r aelodau anfon eu cwestiynau drwy e-bost at yr Ymarferydd Ysgolion Iach a’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid), a chadarnhawyd y rhennid yr holl gwestiynau a’r ymatebion iddynt ag aelodau’r pwyllgor.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Carolyn Preece bryderon yngl?n â’r ail argymhelliad, gan ddweud y gallai fynd yn angof i raddau fel rhan o’r prif adroddiad. Rhoes y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) sicrwydd y byddai adran neilltuol ar gyfer hyn yn yr adroddiad Diogelu mewn Addysg.

 

Cynigodd y Cynghorydd Paul Cunningham ddilyn yr argymhelliad cyntaf a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Gladys Healey y cynnig hwnnw.

 

Cynigodd y Cynghorydd Paul Cunningham ddilyn yr ail argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Carolyn Preece y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)         Bod yr aelodau’n cadarnhau eu bod wedi cael sicrwydd digonol ynghylch y drefn o gefnogi a monitro ysgolion ynghylch cyfryngau cymdeithasol a diogelwch ar y rhyngrwyd.

 

(b)         Bod yr aelodau’n cytuno y dylai’r adroddiad fod yn rhan o’r adroddiad blynyddol Diogelu mewn Addysg yn y dyfodol ac y dylid ei gyflwyno gerbron y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.