Mater - cyfarfodydd
Self-Evaluation of Education Services 2021-22
Cyfarfod: 10/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 22)
22 Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg 2021-22 PDF 100 KB
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar berfformiad gwasanaeth 21-22 a Chanlyniadau Dysgwr ar gyfer 2021.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Self Evaluation Report Education Services 2021-22, eitem 22 PDF 1 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg 2021-22
Cofnodion:
Wrth gyflwyno’r adroddiad, rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) drosolwg o Hunanwerthusiad Ebrill 2021 i Fawrth 2022. Oherwydd bod Estyn wedi gorfod gohirio ei arolygiadau, dywedodd nad oedd dau adroddiad gwerthuso blaenorol y portffolio wedi dilyn fframwaith Arolygu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol. Roedd y portffolio bellach wedi dychwelyd at y strwythur hwnnw wrth i Arolygiadau ail-ddechrau. Cynhaliwyd arolwg diwethaf yr Awdurdod yn 2019, ac roedd Estyn yn cynnig cwblhau’r gylched hon erbyn haf 2024. Darparwyd gwybodaeth am ffocws yr hunanwerthusiad a oedd yn nodi cryfderau, meysydd i’w gwella a sut oedd y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud. Roedd fframwaith ardal Estyn, ynghyd â’r pedwar argymhelliad a wnaethpwyd, yn gynwysedig yn yr adroddiad ac roedd y portffolio yn parhau i wneud cynnydd yn erbyn yr argymhellion hyn er gwaethaf yr heriau yn sgil y pandemig. Cafodd yr argymhellion eu mewnosod hefyd ym mlaenoriaethau Cynllun y Cyngor a chynllun busnes y portffolio.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie am wybodaeth data, eglurodd y Prif Swyddog oherwydd bod y penderfyniad wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru (LlC), nid oedd modd darparu data ar gyfer ysgolion unigol. Cyfeiriodd at adran 1.01 yr adroddiad a oedd yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol mewn ysgolion a dywedodd bod gan bob ysgol uwchradd gynlluniau cefnogi mewn lle i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau yr oedd pob ysgol wedi’u nodi. Ym mhwynt 1.03 yr adroddiad, darparwyd gwybodaeth am bresenoldeb a gwaharddiadau, a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf.
Mewn ymateb i sylwadau pellach yngl?n â data, esboniodd y Prif Swyddog bod yr amgylchedd gweithio wedi newid ac nad oedd yn gallu darparu tablau data ar ganlyniadau arholiadau. Roedd y modelau ar gyfer asesu disgyblion wedi newid a oedd yn golygu ei bod yn anodd cymharu data. Teimlai y byddai gweithdy i Aelodau yn fanteisiol er mwyn gallu darparu mwy o wybodaeth. Roedd y Bwrdd Ansawdd Lleol yn cael y trafodaethau manwl hyn ac yn y cyfarfod nesaf byddai prosesau monitro perfformiad ysgolion yn cael eu trafod. Byddai aelodau yn gallu ymuno â’r trafodaethau hyn a’r unig ddilysiad allanol oedd adroddiadau arolygiadau Estyn presennol. Roedd y gwerthusiad hwn yn grynodeb o berfformiad y portffolio dros y flwyddyn honno.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at adran 1.05 yr adroddiad a oedd yn datgan mai’r rôl oedd herio ysgolion yn drwyadl a darparu cefnogaeth wedi’i thargedu. Dywedodd efallai y byddai’n gliriach i’r Pwyllgor pe bai esboniad yn cael ei ddarparu yngl?n â sut y gwneir hyn. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog y byddai hyn yn cyd-fynd ag adroddiad gan y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion a fyddai'n darparu gwybodaeth ar y broses uwchgyfeirio. Yn y cyfarfodydd hynny cafodd sefyllfa bresennol pob ysgol ei thrafod yn fanwl gan dynnu sylw at faterion neu bryderon newydd gan roi cynllun mewn lle gan naill ai’r Awdurdod neu GwE i gefnogi’r ysgol honno.
Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion bod proses gefnogi glir a phroses uwchgyfeirio mewn lle mewn ysgolion. Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor y llynedd yngl?n â sut yr edrychir ... view the full Cofnodion text for item 22