Mater - cyfarfodydd

Climate Change Strategy

Cyfarfod: 24/02/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 104)

104 Strategaeth Newid Hinsawdd pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Ennill cytundeb ac ymrwymiad i’r Strategaeth Newid Hinsawdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad ar y cyd â Rheolwr y Rhaglen Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon.

 

Wrth gyflwyno’r Strategaeth Newid Hinsawdd, eglurwyd bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi datgan argyfwng hinsawdd yn 2019, gan alw ar y Sector Cyhoeddus i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.   Bu i'r Cabinet benderfynu ym mis Rhagfyr 2019 y byddent yn canfod adnoddau i benodi Rheolwr Rhaglen i ddatblygu’r Strategaeth Newid Hinsawdd, a fyddai’n gosod nodau a chamau gweithredu allweddol ar gyfer creu Cyngor carbon niwtral erbyn 2030.

 

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y canlynol:-

 

  • Cyd-destun
  • Cyflawniadau hyd yma
  • Datblygiad y Strategaeth - llinell sylfaen
  • Effeithiau Pandemig Covid-19
  • Datblygiad y Strategaeth - Ymgysylltu
  • Bwriad y Strategaeth oedd cael Cyngor di-garbon net erbyn 2030.
  • Strategaeth Newid Hinsawdd
  • Cynllun Gweithredu Di-garbon Net - ymddygiad
  • Llinell Amser hyd at 2030

 

Talodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) deyrnged i Reolwr y Rhaglen a oedd, ar ôl ymuno â’r Cyngor ym mis Mehefin 2021, wedi gwneud llawer iawn o waith gyda gweithgor yr Aelodau i’w gwneud yn bosib cyflwyno’r Strategaeth heddiw.  Roedd y gwaith a wnaed eisoes i leihau ôl troed carbon y Cyngor dros yr 8 mlynedd diwethaf wedi’i gynnwys yn y Strategaeth.

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i Reolwr y Rhaglen am ei chyfraniad hyd yma i Strategaeth y Cyngor ac i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi).  Talodd deyrnged hefyd i’r Cynghorydd Carolyn Thomas, a fu’n rhan bwysig o ddatblygu nifer o’r mentrau.   Diolchodd i drigolion Sir y Fflint am wneud y newidiadau bychain yn eu hymddygiad, fel defnyddio cludiant cyhoeddus ac ailgylchu cymaint ag y gallent, sy’n gwneud gwahaniaeth.  Roedd mwyafrif y trigolion wedi ymateb i’r her, a diolchodd iddynt am eu cefnogaeth.  Gan gyfeirio at alwad LlC i Sectorau Cyhoeddus fod yn garbon niwtral, eglurodd bod y Cabinet wedi gwneud amrywiaeth o benderfyniadau i alluogi’r Cyngor i gyrraedd y nod erbyn 2030.  Roedd gan blant ddiddordeb brwd mewn carbon niwtraliaeth a materion lleihau carbon, a theimlodd y dylid ystyried, ar ôl i’r Cyngor newydd ddechrau, creu Panel Ymgynghorol Plant a Myfyrwyr i drafod y materion hyn.  Cynigiodd yr argymhelliad.

 

Siaradodd y Cynghorydd Sean Bibby fel Cadeirydd Bwrdd y Rhaglen Newid Hinsawdd, gan dalu teyrnged i’r gwaith a wnaed gan Reolwr y Rhaglen a’r Prif Swyddog ar lunio’r Strategaeth.  Wrth eilio’r argymhelliad, diolchodd i’w gyd Aelodau ar Fwrdd y Rhaglen Newid Hinsawdd am eu heriau a’u cyfraniadau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Jones am y goblygiadau o ran cost, cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen ei bod yn anodd darparu gwybodaeth ariannol gan fod rhaid ymchwilio ymhellach i’r prosiectau.  Bydd achosion busnes yn cael eu datblygu ar gyfer pob maes sy’n gofyn am fuddsoddiad, gyda dealltwriaeth glir o’r goblygiadau ariannol fydd ynghlwm.    Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ei bod yn rhy gynnar i ragweld hyn ar hyn o bryd, ond sicrhaodd y Cynghorydd Jones y byddai achosion busnes buddsoddi yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor.   Nid oedd costau’r technolegau  ...  view the full Cofnodion text for item 104