Mater - cyfarfodydd

Audit Wales 2022 Audit Plan

Cyfarfod: 08/06/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 8)

8 Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio 2022 pdf icon PDF 85 KB

Adolygu Cynllun Archwilio - Archwilio Cymru 2022 ar gyfer y Cyngor sy’n nodi’r gwaith archwilio arfaethedig ar gyfer y flwyddyn, yn ogystal ag amserlen, costau a’r timoedd archwilio sy’n gyfrifol am gynnal y gwaith.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol Gynllun Archwilio Cymru ar gyfer 2022 sy’n cynnwys gwaith archwilio ariannol a pherfformiad arfaethedig ar gyfer y Cyngor, yn cynnwys amserlenni, costau a thimau archwilio sy’n gyfrifol. 

 

Manteisiodd y Prif Weithredwr ar y cyfle i ddiolch i gydweithwyr o Archwilio Cymru am eu hymgysylltiad gyda swyddogion wrth lunio’r Cynllun.

 

Wrth grynhoi prif adrannau gwaith archwilio ariannol, fe dynnodd Mike Whiteley o Archwilio Cymru sylw at y risgiau archwilio yn cynnwys gwrth-wneud rheoli rheoliadau a oedd yn risg sylweddol rhag osodedig a oedd yn bresennol ym mhob Cynllun Archwilio.  Rhoddodd Jeremy Evans drosolwg o raglen archwilio perfformiad a gymerodd  dull ar sail risg i bynciau cenedlaethol a lleol. Fe ddywedodd y byddai’r ail adolygiad thematig yn nogfen arddangos 2 yn ymwneud â gwasanaethau digidol a bod yr adolygiad lleol ar gomisiynu lleoliadau y tu allan i’r sir wedi newid i atal digartrefedd fel y cytunwyd gyda swyddogion.

 

Gan ymateb i’r ymholiadau gan Allan Rainford, fe eglurwyd bod unrhyw waith ychwanegol ar werthusiadau asedau o archwiliadau blynyddoedd blaenorol yn annhebygol o effeithio ar ffi archwilio arfaethedig ar gyfer eleni. Tra bod y ffioedd archwilio wedi’u seilio ar lefel o risg a’r gwaith sydd angen ei wneud, fe ellir dylanwadu arnynt gan waith ychwanegol sydd wedi’i nodi mewn archwiliadau yn ystod y flwyddyn. O ran yr heriau o gymharu data perfformiad gyda sefydliadau eraill yn ystod y pandemig, byddai angen  ailgychwyn gweithgareddau meincnodi wrth i gyfyngiadau gael eu llacio.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan Allan Rainford a’r Parchedig Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi fersiwn ddrafft Cynllun Archwilio Cymru 2022.