Mater - cyfarfodydd

Asset Pooling and WPP Annual Updates

Cyfarfod: 09/02/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 40)

40 Cyfuno Asedau a Diweddariad Blynyddol Partneriaeth Pensiwn Cymru pdf icon PDF 115 KB

Darparu Aelodau’r Pwyllgor gyda diweddariad ar Fuddsoddiadau Cyfuno Asedau yng Nghymru, gan gynnwys cyflwyniadau gan Weithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru a Darparwr Datrysiad Rheoli Buddsoddiadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn y Cyd-bwyllgor Llywodraethu (“JGC”) diwethaf, cytunwyd y dylid ymestyn y contract gyda Gweithredwr Link Fund Solutions hyd at fis Rhagfyr 2024.  Ychwanegodd Mr Latham y gwnaed cynnydd o ran penodi cynrychiolydd aelod cyfetholedig i’r JGC a dylid rhoi hyn ar waith erbyn y JGC nesaf ym mis Mehefin 2022.

 

Eglurodd Mr Latham na fyddai cynllun busnes WPP yn cael ei gyhoeddi mewn pryd ar gyfer Pwyllgor mis Mawrth 2022, ond byddai ar gael erbyn Pwyllgor mis Mehefin 2022.  Yn ogystal â hyn, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ymgynghoriad ar ganllawiau cyfuno asedau CPLlL yn yr haf 2022.

 

Cadarnhaodd Mrs Fielder y bydd cyflwyniadau gan ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer ar gyfer penodi ‘dyranwyr’ y Farchnad Breifat yng Nghaerdydd yr wythnos ganlynol.  Rôl y dyranwyr fyddai dewis y gorau o ran rheolwyr marchnad breifat ar draws y dosbarthiadau asedau gwahanol.  Rhagwelir y bydd tendr i benodi Dyrannwr Ecwiti Preifat yn dechrau ym mis Ebrill 2022.

 

Cyflwynodd Mr Gough ei hun fel uwch reolwr perthynas ar gyfer Link Fund Solutions ac fe eglurodd y cyflwyniad.  Eglurodd i’r Pwyllgor bod disgwyl i Link Fund Solutions gael eu gwerthu i drydydd parti o’r enw Dye & Durham ond nid oedd yn credu y byddai hyn yn cael unrhyw effaith o ddydd i ddydd ar WPP.  Nododd y byddai gan yr endid gynllun clir ac roedd yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod.

 

Holodd Mrs McWilliam a oedd hyn yn risg ar gyfer y Gronfa.  Nid oedd Mr Gough yn credu bod hyn yn risg mawr ond byddai’n diweddaru’r Pwyllgor wrth i’r mater ddatblygu.  Cadarnhaodd Mr Latham bod Gweithgor Swyddogion (“OWP”) a JGC yn monitro unrhyw risg sy’n gysylltiedig â hyn.

 

            Cyflwynodd Mr Gough strwythur buddsoddiadau WPP o dudalen 123 a’r buddsoddiadau presennol ar gyfer y Gronfa o fewn WPP ar dudalen 124.   Ar y cyfan, roedd gan WPP gyfanswm asedau o dan reolaeth o oddeutu £10.5 biliwn fel y nodwyd ar dudalen 125.

 

Cyflwynodd Mr Quinn ei hun fel cyfarwyddwr cyswllt a Mr Pearce fel uwch reolwr portffolio yn Russell Investments.

 

Nododd Mr Pearce y pwyntiau allweddol canlynol ar yr eitem hon ar y rhaglen:

 

-       Mae gan Russell Investments ddadansoddwyr ymchwil ledled y byd ac mae eu hymchwil ar reolwyr yn uno rheolwyr buddsoddi ac arbenigwyr rhanbarthol.

-       Roedd tudalen 128 yn amlinellu tueddiadau perfformiad y farchnad ers llunio portffolios WPP.  Y llinell ddu doredig yng nghanol y graff oedd Cronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang WPP.  Roedd y llinell oren ar y graff yn cynrychioli twf.  Nododd Mr Pearce bod mathau penodol o fuddsoddi yn aml yn cynnwys perfformio’n sylweddol well ond dros amser bydd dychweliad cymedr h.y. lle bydd twf yn dod yn ôl ar gyfer mathau eraill.

-       Cyflwynwyd dadansoddiad o Gronfa Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang WPP ar dudalen 129.  Ychwanegodd Mr Pearce y cyflwynwyd rheolwr newydd yn Siapan ym mis Rhagfyr 2021 o’r enw Nissay i gymryd lle NWQ.   Cadarnhaodd y byddent yn parhau i adael NWQ yn ofalus nes bo’r holl gysylltiad yn Siapan gyda’r rheolwr arbenigol arall.  ...  view the full Cofnodion text for item 40