Mater - cyfarfodydd

Minimum Revenue Provision - 2022/23 Policy

Cyfarfod: 15/02/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 94)

94 Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2022/23 pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Mae gofyn i Awdurdodau Lleol bob blwyddyn roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion.  Mae’r adroddiad yn cyflwyno polisi drafft y Cyngor ar Isafswm Darpariaeth Refeniw.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i gymeradwyo'r polisi blynyddol ar gyfer y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer ad-dalu dyled yn ddarbodus.  Cadarnhaodd nad oedd unrhyw newidiadau i'r argymhellion a gafodd eu gwneud gan y Cabinet.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Johnson ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Chris Dolphin.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo ar gyfer Cronfa'r Cyngor (CF): -

 

  • Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Asedau) ar gyfer cyfrifo'r MRP ym mlwyddyn ariannol 2022/23 ar gyfer balans gwariant cyfalaf dyledus a ariennir drwy fenthyca â chymorth a bennwyd ar 31  Mawrth 2017. Y dull cyfrifo fydd y dull 'blwydd' dros 49 mlynedd. 

 

  • Defnyddio opsiwn 3 (Dull Oes Asedau) ar gyfer cyfrifo'r MRP yn 2022/23 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf a ariennir o fenthyca â chymorth o 1 Ebrill 2016 ymlaen. Y dull cyfrifo fydd y dull 'blwydd-dal' dros nifer briodol o flynyddoedd, gan ddibynnu ar y cyfnod o amser y mae'r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion. 

 

  • Defnyddio opsiwn 3 (Dull Oes Asedau) ar gyfer cyfrifo'r MRP yn 2022/23 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf a ariennir drwy gredyd neu drefniadau benthyca heb gymorth (darbodus). Y dull cyfrifo fydd y dull 'blwydd-dal' dros nifer briodol o flynyddoedd, gan ddibynnu ar y cyfnod o amser y mae'r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.  

 

(b)       Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai (HRA): -

 

  • Defnyddio opsiwn 3 (Dull Oes Asedau) ar gyfer cyfrifo MRP y HRA yn 2022/23 ar gyfer balans gwariant cyfalaf dyledus a ariennir o ddyled a osodwyd ar 31 Mawrth 2021. Y dull cyfrifo fydd y dull 'blwydd-dal' dros 49 mlynedd.

 

  • Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Asedau) ar gyfer cyfrifo MRP yr HRA yn 2022/23 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf a ariennir o ddyled o 1 Ebrill 2021 ymlaen. Y dull cyfrifo fydd y dull 'blwydd-dal' dros nifer briodol o flynyddoedd, gan ddibynnu ar y cyfnod o amser y mae'r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion. 

 

(c)        Mae aelodau'n cymeradwyo bod MRP ar fenthyciadau gan y Cyngor i NEW Homes i adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy'r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) (sy'n gymwys fel gwariant cyfalaf yn nhermau cyfrifo) fel a ganlyn: -

 

  • Ni wneir unrhyw MRP yn ystod y cyfnod adeiladu (cyfnod byr) gan nad yw'r ased wedi'i ddefnyddio ac nid oes unrhyw fudd yn deillio o'i ddefnydd.  

 

  • Pan fo’r asedau yn cael eu defnyddio, bydd ad-daliadau cyfalaf (benthyciad) yn cael eu gwneud gan NEW Homes. Bydd MRP y Cyngor yn hafal i'r ad-daliadau a wneir gan NEW Homes. Bydd yr ad-daliadau a wneir gan NEW Homes yn cael eu dosbarthu, yn nhermau cyfrifo, fel derbynebau cyfalaf, na ellir ond eu defnyddio i ariannu gwariant cyfalaf neu ad-dalu dyled.  Bydd yr ad-daliad cyfalaf / derbynneb cyfalaf yn cael ei neilltuo er mwyn ad-dalu dyled, a dyma yw polisi MRP y Cyngor ar gyfer ad-dalu’r ddyled.