Mater - cyfarfodydd

Flintshire Coast Park

Cyfarfod: 08/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 69)

69 Parc Arfordir Sir y Fflint pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Mae’r Cabinet yn croesawu barn Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar y cynnig i ddatblygu Parc Rhanbarthol Arfordir Sir y Fflint, gan godi proffil y blaendraeth a galluogi cymunedau a busnesau i weithio’n gynaliadwy ac yn arloesol i helpu i ddarparu ffyniant amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad eglurodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod y Cabinet yn gofyn am farn y Pwyllgor ar ddatblygu parc arfordir.

 

            Cadarnhaodd Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol fod y Rhaglen Mynediad at yr Arfordir, a ddechreuwyd yn 2006, wedi arwain at agor Llwybr Arfordir Cymru. Mae gwaith wedi’i wneud i sefydlu’r cyfeiriad strategol ar gyfer mynediad i’r blaendraeth gyda’r syniadau yn cynnwys parc arfordir (y mae TEP Consultancy wedi cynhyrchu prosbectws ar ei gyfer yn 2014). Darparodd drosolwg o’r fframwaith a’r chwe chanolbwynt, ond ni cheir manylion o ran sut y bydd hyn yn cael ei weithredu, ei ariannu a dan ba bortffolio y bydd. Ers 2014 mae sawl prosiect dan nawdd grant wedi bod yn llwyddiannus, a dywedodd fod awch o hyd i’r datblygiad, yn enwedig ar ôl y pandemig, a theimlwyd bod angen archwilio’r parc arfordir eto, gyda’r posibilrwydd o fwrw ymlaen â’r cynlluniau i greu parc rhanbarthol ffurfiol. Amlinellodd fanteision parc arfordirol a beth sydd wedi’i gyflawni yn ystod y degawd diwethaf. Byddai angen ailedrych ar y prosbectws i ddeall beth sydd wedi newid ac mae’r Cyngor wedi cysylltu â’r cwmni a greodd y prosbectws i ymgymryd â’r gwaith cwmpasu yma. Soniodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol am gyfarfodydd a gynhaliwyd gyda swyddogion sydd wedi bod yn ymwneud â’r gwaith diweddar yng Nghymoedd y De, a darparodd wybodaeth am y testunau amrywiol a drafodwyd. Mae dadansoddiad o’r buddion, y meini prawf ar gyfer cynnwys, canfod cyfleoedd wedi’u hariannu gan grantiau a sut y byddai hyn yn bwydo i mewn i gefnogi’r cais i’r Gronfa Ffyniant Bro, oll yn cael eu hystyried.

 

            Roedd ar y Cynghorydd Patrick Heesom eisiau sicrhau bod hyn yn deg ac yn dod â budd i’r sir gyfan. Mewn ymateb, cytunodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol fod yna adnodd gwych o’r Fflint i Dalacre i Saltney, ac ased i’r sir gyfan. Byddwn yn ailedrych ar y chwe chanolbwynt a nodwyd ym mhrosbectws 2014 fel rhan o’r astudiaeth gwmpasu newydd. Eglurodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod y ddogfen strategaeth sydd ynghlwm wrth yr adroddiad yr un fath â’r un ym mhrosbectws 2014. Mae hyn yn derbyn sylw i sicrhau ei fod yn decach ac yn cynnwys yr arfordir cyfan.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Heesom a fyddai modd i’r Pwyllgor arwain hyn. Mewn ymateb cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) y byddai’r Cyngor Sir yn arwain y cynnig gan gydweithio gyda phob cyngor cymuned ac aelod lleol ar hyd yr arfordir. Byddai’r Cabinet a’r Pwyllgor hwn yn gallu craffu ar unrhyw ddatblygiad a gynigir, a dyna pam bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’w ystyried.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at y Gronfa Ffyniant Bro a gofynnodd a fyddai cost i fusnesau. Canmolodd waith ardderchog ceidwaid yr arfordir a chyfeiriodd at waith yn nociau Cei Connah i dorri’r prysgwydd a’i ymweliad gwych i blannu coed ffrwythau gyda disgyblion uwchradd.

 

            Teimlodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd fod y sir wedi tanwerthu ei hun yn y gorffennol ond, gyda’r  ...  view the full Cofnodion text for item 69