Mater - cyfarfodydd

Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan

Cyfarfod: 15/02/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 92)

92 Cynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        Cyflwyno, Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23, Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a chrynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 blynedd i’w cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i gymeradwyo cyllideb Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) arfaethedig ar gyfer 2022/23, Cynllun Busnes yr HRA a'r Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd cryno fel yr argymhellir gan y Cabinet.  Rhoddodd y Prif Weithredwr a'r Rheolwr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) gyflwyniad ar y canlynol:

 

·         Polisi Rhent Llywodraeth Cymru (LlC)

·         Codiad Rhent Arfaethedig 2022/23

·         Llywodraeth Cymru - Cytundeb Rhentu Ehangach

·         Costau Gwasanaeth

·         Incwm Arall

·         Cynnig Buddsoddi i Arbed

·         Pwysau Arfaethedig ac Effeithlonrwydd

·         Cronfeydd wrth gefn

·         Cynllun Busnes HRA 2022/23

·         Buddsoddiad Cyfalaf HRA

·         Rhaglen Gyfalaf

·         Datblygu Safonau Ansawdd Tai Cymru diwygiedig (SATC)

·         Rhaglen Gyfalaf 2022/23

·         Cyllid Cyfalaf HRA 2022/23

 

Roedd y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn bodloni gofynion Polisi Rhent LlC i ystyried fforddiadwyedd a gwerth am arian i denantiaid.  Yn 2020/21 cytunwyd i ohirio'r cynnydd graddol terfynol mewn taliadau gwasanaeth, gyda'r bwriad o warchod tenantiaid a allai fod yn cael trafferthion ariannol o ganlyniad i Covid-19.  Cynigiwyd bod y cynnydd yma'n cael ei rewi eto yn 2022/23 oherwydd effaith barhaus y pandemig.  Cynigiwyd y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarparwyd o safon uchel, yn cynrychioli gwerth am arian, a bod y gwir gostau yn cael eu hadlewyrchu yng nghyfrifiadau taliadau'r gwasanaeth.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Dave Hughes a'i eilio gan y Cynghorydd Ian Dunbar.  Siaradodd y Cynghorydd Dunbar o blaid y Rhaglen Gyfalaf. Roedd pedwar cynllun i fod i ddechrau ar y safle ar unwaith a byddai hynny'n darparu 77 eiddo ychwanegol i'r stoc dai. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Smith ei fod yn cefnogi'r cynnydd arfaethedig mewn rhent ac nad oedd yn rhy uchel yn ei farn ef, a byddai tenantiaid yn ei groesawu o ystyried y cynnydd uchel mewn costau byw a chostau ynni. 

 

Ar ôl cael ei gynnig a'i eilio, cynhaliwyd pleidlais a chafodd yr argymhellion eu pasio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cyllideb Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23 fel y nodir yn yr atodiadau yn cael ei chefnogi a'i chymeradwyo.