Mater - cyfarfodydd

Y Diweddaraf am Foderneiddio Ysgolion

Cyfarfod: 03/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 42)

42 Diweddariad Moderneiddio Ysgolion pdf icon PDF 131 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad cyfeiriodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio Ysgolion a Darpariaeth) at ysgolion Licswm ac Ysgol yr Esgob yng Nghaerwys a oedd wedi’u ffederaleiddio’n ffurfiol ar 7Mehefin. Cyfeiriodd at y Rhaglen Gofal Plant, a dywedodd fod rheolaeth weithredol y rhaglen bellach wedi’i throsglwyddo o’r Gwasanaethau Cymdeithasol i’r portffolio Addysg. Rhoddodd amlinelliad o sut roedd y rhaglen yn cael ei hariannu a’i rhoi allan i dendr er mwyn cael y gwerth gorau am arian ac arian grant gan Lywodraeth Cymru.  

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio Ysgolion a Darpariaeth) fanylion am Gampws newydd Mynydd Isa a chadarnhaodd fod caniatâd cynllunio wedi’i roi ym mis Ionawr. Roedd contract dylunio ac adeiladu wedi cael ei ddewis drwy Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru (WEPCO) a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r prosiectau’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) yng Nghymru. Byddai’r achos busnes yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn mis Mawrth ac os byddai’n derbyn cymeradwyaeth y gweinidogion yna byddai papur yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet ym mis Mehefin er mwyn cael cymeradwyaeth i symud ymlaen i’r cam adeiladu. Y dyddiad cwblhau arfaethedig oedd mis Gorffennaf 2024 a’r disgwyl oedd y byddai’r ysgol yn agor ym mis Medi 2024.

 

Diolchodd y Cynghorydd Tudor Jones i’r Uwch Reolwr am yr adroddiad trylwyr.  Gan gyfeirio at ffederasiwn Ysgolion Licswm ac Ysgol yr Esgob roedd o’r farn bod y buddion i’r disgyblion a’r staff yn sylweddol. Roedd y ddwy ysgol yn rhannu staff a llwyth gwaith ac roeddynt yn credu fod hyn yn gwella ansawdd yr hyn roeddynt yn ei ddarparu, ynghyd â’r gwasanaeth gofal cofleidiol, a oedd yn wych ar gyfer yr ardal. Estynnodd ei longyfarchiadau i bawb a oedd wedi cynorthwyo hyn.  Gan gyfeirio at y buddsoddiad mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, dywedodd y Cynghorydd Jones fod hyn yn profi bod y cyngor yn cymryd camau i ddarparu’r ddwy iaith ar draws y sir. Roedd yn cymeradwyo’r Uwch Reolwr, a phawb a oedd yn gysylltiedig.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Smith at brosiectau gwych Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain a oedd wedi dod â budd i Sir y Fflint i gyd. Gofynnodd a oedd hyn yn debyg i’r cynllun PFI ac a oedd y costau yn hysbys iddo ar gyfer MIM o’i gymharu â benthyca am dros 25 mlynedd yn ôl y drefn arferol.  Mewn ymateb esboniodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio Ysgolion a Darpariaeth) fod costau yn gysylltiedig pan gyflwynwyd yr achos busnes ac roedd hyn wedi cael ei gynnwys yng nghynlluniau ariannol a Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor (MTFS). 

 

            Roedd y Cynghorydd Sean Bibby yn croesawu’r buddsoddiad yn Ysgol Croes Atti, Glannau Dyfrdwy a dywedodd fod 10 disgybl wedi gallu mynychu Ysgol Maes Garmon ym mis Medi. Talodd deyrnged i’r Pennaeth, Athrawon, Llywodraethwyr, a’r disgyblion am lwyddo i sicrhau ysgol cyfrwng Cymraeg yng nghanol Glannau Dyfrdwy. Gofynnodd a oedd unrhyw gynigion i gynnig darpariaeth o’r fath yn ardaloedd Bwcle a Mynydd Isa er mwyn efelychu llwyddiant Shotton yn y rhan honno o’r Sir hefyd. Roedd yr Arweinydd yn gobeithio y gellid sefydlu  ...  view the full Cofnodion text for item 42