Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2022/23

Cyfarfod: 03/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 43)

43 Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 114 KB

Ymgynghori ar Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2022/23

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r fersiwn ddrafft o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2022/23, cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol fod y Cynllun yn parhau i gynnwys y meysydd yn y themâu a nodwyd wrth i’r Cyngor adfer o’r pandemig. Tynnodd sylw at y newidiadau yn 1.02 a’r chwe thema a blaenoriaethau a oedd wedi aros yr un fath yn rhif 1.03 o’r adroddiad. Cadarnhaodd y byddai’n casglu’r sylwadau ynghyd ac yn eu rhannu gyda’r Aelodau cyn eu cyflwyno gerbron y Cabinet a’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2022. 

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) at yr is-flaenoriaeth newydd ar Lesiant a oedd wedi’i chynnwys yng Nghynllun y Cyngor yn dilyn trafodaethau yn y Pwyllgor Adferiad. Cyfeiriodd sylw’r Aelodau at dudalen 119 a oedd yn amlinellu sut roedd hyn yn cael ei hwyluso ynghyd â Fframwaith Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion i wreiddio dull ysgol gyfan at Iechyd Emosiynol a Llesiant a oedd yn cael ei arwain yn rhanbarthol gan Laura England, un o swyddogion Cyngor Sir y Fflint. Byddai hyn yn sicrhau bod ysgolion yn derbyn adnoddau digonol, hyfforddiant a chymorth i adolygu popeth roeddynt yn ei wneud drwy lens iechyd emosiynol a llesiant. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y cydweithio gyda Gwasanaethau Ieuenctid yn Sir y Fflint a Wrecsam i gefnogi pobl ifanc a oedd yn ceisio lladd eu hunain ac a oedd yn mynd i’r ysbyty. Rhoddwyd amlinelliad hefyd o waith y Gwasanaethau Cynhwysiant a Chyfiawnder Ieuenctid i ddeall y trawma roedd pobl ifanc yn ei wynebu yn eu bywydau am amryw o resymau. Y nod oedd eu hannog i ddychwelyd at fyd addysg a chymryd rhan yn y byd o’u cwmpas.  

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 113, sef yr elfen newydd o’r addasiad Newid Hinsawdd ac roedd yn falch bod materion yn ymwneud â digwyddiadau tywydd gwael fel llifogydd, gwyntoedd cryfion a hafau hir poeth yn cael sylw. Dywedodd fod Sir y Fflint wedi cael ei enwi fel un o’r awdurdodau nad oedd ganddo Gynllun Newid Hinsawdd ond roedd hyn yn anghywir ac efallai y gellid cywiro hyn yng Nghynllun y Cyngor. 

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod gan y Cyngor Strategaeth Newid Hinsawdd ac roedd Rheolwr Rhaglen yn arwain gr?p ar draws pob portffolio lle’r oedd gan bob portffolio gynrychiolaeth ac roeddynt wedi cyfrannu at Strategaeth Newid Hinsawdd fanwl iawn. Gan gyfeirio at Gynllun y Cyngor, cadarnhaodd fod y lliwiau gwahanol yn yr adrannau yn cyfeirio at bortffolios eraill a oedd yn gallu cyfrannu at y themâu hynny. Rhoddodd wybodaeth am y themâu ar gyfer y portffolio Addysg, yn enwedig drwy’r ysgolion iach, eco-ysgolion a COT26 a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o blith pobl ifanc Sir y Fflint. Yna rhoddodd wybodaeth am y camau a oedd yn cael eu cymryd o ran adeiladau ysgolion ac mai Ysgol Mynydd Isa fyddai’r prosiect carbon niwtral cyntaf. 

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Sean Bibby fod Strategaeth Newid Hinsawdd fanwl iawn yn cael ei chyflwyno gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd a’r Economi, a’r Cabinet.

 

Cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor fod  ...  view the full Cofnodion text for item 43