Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2022/23

Cyfarfod: 12/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 39)

39 Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Ymgynghori ar Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Gynllun Drafft y Cyngor 2022/23, a oedd wedi cael ei adolygu a’i adnewyddu yn dilyn ymateb i’r pandemig a’r Strategaeth Adfer.   Yr un yw’r themâu a’r blaenoriaethau â’r rhai yn 2021/22, fodd bynnag mae rhai o’r is-flaenoriaethau wedi’u datblygu.

 

Roedd strwythur y Cynllun yn parhau i gael ei gysoni i gyfres o chwe Amcan Lles ac roedd y chwe thema yn parhau i gymryd golwg hirdymor ar adferiad, uchelgais a gwaith dros y ddwy flynedd nesaf.   Atodwyd amlinelliad o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2022/23, gan gynnwys y chwe thema, eu blaenoriaethau a’r camau gweithredu i’r adroddiad.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol y byddai’r holl sylwadau ac awgrymiadau yn cael eu casglu a’r rhannu â’r Cabinet cyn cymeradwyo eu mabwysiadu ym mis Mehefin 2022.  

 

Cafodd yr argymhelliad a nodir yn yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Helen Brown a’r Cynghorydd Brian Lloyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnwys y themâu ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022-23, fel a gyflwynwyd yn yr adroddiad a’r atodiad.