Mater - cyfarfodydd

Risks and Issues within Portfolios and Feedback from Overview & Scrutiny

Cyfarfod: 06/01/2022 - Pwyllgor Adfer (eitem 55)

55 Risgiau a Materion o fewn Portffolios ac Adborth o Drosolwg a Chraffu pdf icon PDF 145 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar y risgiau pennaf/cyfredol o fewn y pum portffolio ac adborth ar y risgiau hynny a ystyriwyd gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd gyda meysydd risg ar gyfer pob un o’r pum portffolio gwasanaeth ac adborth am y materion hynny gan Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Addysg ac Ieuenctid

 

Wrth grynhoi’r prif feysydd risg, rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wybodaeth am ddull gweithredu a ddilynwyd i nodi lefelau cadernid ysgolion wrth iddynt nesáu at wyliau’r Nadolig a bod newid i ddysgu o bell - gan ymgynghori â Llywodraeth Cymru (LlC) - wedi’i groesawu gan Benaethiaid a’r rhan fwyaf o rieni.  Roedd gofyniad parhaus am gyllid grant ychwanegol i ddarparu cefnogaeth angenrheidiol i fynd i’r afael ag effaith hirdymor y pandemig ar ddisgyblion o bob oed.  Risg uchel arall oedd gallu ysgolion i ddelio â heriau fel absenoldebau staff ynghyd â newidiadau deddfwriaethol a pharatoadau ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd.  Roedd sefyllfa LlC o ran arholiadau ysgol yn cael ei monitro’n agos.  Roedd paratoadau ar y gweill i ysgolion gynnal asesiadau risg yn barod ar gyfer ailagor ym mis Ionawr.  Byddai’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa pob ysgol yn cael ei rhannu gyda phob Aelod pan fyddai’r data wedi’i gasglu yn ddiweddarach yn y dydd.

 

Diolchodd y Cynghorydd David Healey i’r Prif Swyddog a’i thîm am eu cefnogaeth i ysgolion a Phenaethiaid.  Gan ymateb i gwestiwn am wella awyriad mewn ysgolion, dywedodd y byddai cyllid ychwanegol gan LlC yn galluogi’r Cyngor i asesu lle ddylai gwaith adfer gael ei flaenoriaethu.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cadeirydd, dywedodd y Prif Swyddog fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid wedi trafod y nifer gynyddol o blant sy’n cael eu haddysgu gartref ac effaith hynny ar gyfrifoldebau’r Awdurdod Lleol.  O ran yr heriau wrth gyrchu staff cyflenwi, a oedd wedi cynyddu’n genedlaethol yn ystod y pandemig, byddai’n rhannu’r awgrym i LlC gysylltu â’r sefydliadau hynny i ailadrodd eu gwerth o ran darparu gwasanaeth.

 

Tai ac Asedau

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr effaith y pandemig ar incwm rhenti unwaith eto, a’r gefnogaeth sydd ar gael i denantiaid sy’n cael anhawster, a oedd yn barod i ymgysylltu â’r Cyngor.  Roedd y sefyllfa o ran pobl a oedd yn datgan eu bod yn ddigartref yn parhau i gael ei monitro, a byddai cyllid ychwanegol gan LlC yn helpu i gynyddu capasiti staff a gwasanaethau cefnogi eraill a gomisiynir.  Roedd risgiau parhaus o ran adnoddau deunydd crai a chostau yn cael eu hadlewyrchu’n genedlaethol.

 

Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod cadernid y tîm wedi elwa o ymgyrch recriwtio lwyddiannus, ac eithrio swydd wag heb ei llenwi yn y tîm Draenio a Diogelu rhag Llifogydd.  O ran y Cynllun Datblygu Lleol, disgwyliwyd ymateb gan yr Arolygiaeth Gynllunio cyn cam nesaf yr ymgynghori o ran y newidiadau.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant fod prif feysydd galw ar wasanaethau o ganlyniad i bwysau ar y tri ysbyty lleol a bod gwaith amddiffyn plant wedi cynyddu’n sylweddol o ganlyniad i achosion cenedlaethol yn codi ymwybyddiaeth.  Eglurodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 55