Mater - cyfarfodydd

Corporate Recovery Objectives

Cyfarfod: 06/01/2022 - Pwyllgor Adfer (eitem 53)

53 Amcanion Adferiad Corfforaethol pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Nodi cynnydd sydd wedi’i wneud yn erbyn yr Amcanion Adferiad Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd â’r amcanion corfforaethol yn yr ail gam hwn o’r adferiad o bandemig Covid-19, lle’r oedd amrywiolyn Omicron yn dechrau effeithio ar wasanaethau.  Er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar adferiad, roedd y pwyslais yn y dyfodol yn debygol o gael ei effeithio’n sylweddol gan yr angen i weithredu camau gweithredu ymateb trwy gydol mis Ionawr a mis Chwefror 2022.

 

Roedd nodau cyffredinol y Cyngor o ran adfer fel a gytunwyd o’r blaen, a rhoddodd uwch swyddogion y wybodaeth ddiweddaraf am bob un o’r amcanion adfer corfforaethol yn eu meysydd cyfrifoldeb, fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cyllid

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai adroddiad am oblygiadau Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol cyn i’r Cabinet gyflwyno cynigion cyllideb manwl i’r Cyngor ym mis Chwefror.  Er gwaetha’r Setliad cadarnhaol, byddai angen cynnydd yn y gofyniad cyllidebol ychwanegol er mwyn bodloni effaith dyfarniadau cyflog a’r Cyflog Byw Gwirioneddol ynghyd â chostau ychwanegol parhaus ac incwm a gollwyd yn sgil y pandemig ar ôl diwedd Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru (LlC) ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.  Byddai cynnal lefelau cronfeydd wrth gefn yn ystyriaeth allweddol ar gyfer gosod cyllideb 2022/23 a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Healey a oedd LlC wedi cytuno i ariannu penderfyniadau cenedlaethol, fel yr ymgodiad arfaethedig o ran cyflogau athrawon.  Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod LlC wedi bod yn glir wrth ddweud y byddai angen i effaith pob dyfarniad cyflog gael ei lliniaru’n llawn o’r Setliad.  Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod argymhellion wedi’u cyflwyno i’r Gweinidog gan gorff adolygu cyflogau annibynnol a byddai’r sefyllfa’n cael ei monitro’n ofalus wrth drafod â Chymdeithasol Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

Ar ôl cwestiynau gan y Cynghorydd Marion Bateman a’r Cadeirydd, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y gofyniad cyllidebol ychwanegol o £20.696 miliwn a adroddwyd ym mis Rhagfyr yn cael ei adolygu, er mwyn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf.

 

Gweithlu

 

Siaradodd y Prif Weithredwr am effaith y rheoliadau newidiol a rhoddodd enghreifftiau o fesurau a gyflwynwyd i barhau i gefnogi a sicrhau diogelwch a lles y gweithlu, yn enwedig wrth addasu i weithio gartref.  Roedd datblygu protocol drafft i gefnogi egwyddorion gweithio hybrid yn debygol o ragori ar darged LlC i ymgyrraedd ato o ran gweithio o bell.  Er bod ail-ddylunio sefydliadol yn cael ei ddylanwadu’n drwm gan ddatrysiadau technegol, roedd yn bwysig cynyddu hyblygrwydd i sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i weithredu'n effeithiol.

 

Cydnabu’r Prif Swyddog (Llywodraethu) yr her weithio gartref a rhoddodd sicrwydd o ran hyblygrwydd i ddiwallu anghenion gweithwyr wrth sicrhau eu diogelwch.

 

Wrth ddiolch i’r holl staff, rhoddodd y Cynghorydd Ian Roberts deyrnged benodol i’r rhai yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaethau Stryd, Tai a safleoedd amwynder dinesig am eu gwaith dros gyfnod y Nadolig.  Ailadroddwyd hyn gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Christine Jones, a roddodd deyrnged i dimau yn ei phortffolio.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd athrawon a staff cefnogi wedi’u cynnwys yn y  ...  view the full Cofnodion text for item 53