Mater - cyfarfodydd

Flintshire Coast Park

Cyfarfod: 18/01/2022 - Cabinet (eitem 100)

100 Parc Arfordir Sir y Fflint pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Ceisio barn y Cabinet am sefydlu a dynodi Parc Rhanbarthol ar hyd blaendraeth Aber Afon Dyfrdwy.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad ac esboniodd fod fframwaith strategol o gyfleoedd ar hyd blaendraeth aber Afon Dyfrdwy wedi’i gynhyrchu yn 2014.  Roedd y cynnig ar gyfer parc arfordir yn ceisio nodi blaendraeth yr aber fel endid unigol tebyg i Barc Rhanbarthol.

 

            Dylai’r cysyniad o Barc Arfordir Sir y Fflint gael ei archwilio eto yng ngoleuni’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig ag argaeledd Cronfa Codi’r Gwastad.

 

            Byddai gwaith i ddatblygu Parc Arfordir Rhanbarthol i Sir y Fflint yn rhoi ysgogiad a ffocws newydd i’r arfordir, gan godi proffil y blaendraeth a galluogi cymunedau a busnesau i weithio’n gynaliadwy ac yn arloesol i helpu i ddarparu ffyniant amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a dywedodd mai un mater allweddol yr oedd angen mynd i’r afael ag ef oedd y cyswllt coll yn llwybr yr arfordir rhwng Cei Connah a’r Fflint.  Ar hyd ochr yr A548 roedd y rhannau mwyaf cul.  Roedd cynigion wedi bod yn y gorffennol i ddatrys y broblem ond cawsant eu gwrthod ar y pryd gan RSPB a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, a oedd yn poeni y byddai’n tarfu ar y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.  Teimlai ef y dylai gwella’r llwybr rhwng Cei Connah a’r Fflint ffurfio rhan allweddol o’r cynigion.  Roedd angen canfod datrysiad gydag RSPB a Chyfoeth Naturiol Cymru oherwydd bod gan yr ardal botensial i gael ei defnyddio ar gyfer cerdded, beicio a gweithgareddau hamdden. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n trefnu cyfarfod gyda’r cyrff cyhoeddus perthnasol i drafod y mater.

 

            Roedd holl Aelodau eraill y Cabinet yn croesawu’r adroddiad, gan dynnu sylw at y dreftadaeth, gan gynnwys treftadaeth ddiwydiannol a chefn gwlad brydferth.  Holodd y Cynghorydd Jones a fyddai “Porth y Gogledd” yn gallu cael ei newid i ddarllen “Porth y Gogledd Sealand”.  Teimlai’r Cynghorydd Hughes nad oedd Castell y Fflint yn cael ei hysbysebu’n ddigon da ac y dylai llwybr yr arfordir gysylltu â Dyffryn Maes Glas.  Mewn ymateb i’r sylw hwn am y Castell, esboniodd Y Cynghorydd Roberts mai nod Llywodraeth Cymru oedd cael canolfan ymwelwyr a chaffi yn y Castell.

                       

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cyfeiriad strategol a osodwyd ym Mhrosbectws Parc yr Arfordir a chefnogi’r gwaith i ddatblygu Parc Arfordir Rhanbarthol Sir y Fflint, a

 

(b)       Bod y Cabinet yn croesawu barn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ac yn rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), (mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Datblygu Economaidd) i wneud newidiadau bach i’r cynigion er mwyn adlewyrchu’r farn honno.