Mater - cyfarfodydd

Cashless Payment Solution for Car Parking

Cyfarfod: 14/12/2021 - Cabinet (eitem 87)

87 Talu Heb Arian Parod mewn Maes Parcio pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        I dderbyn cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno system dalu sydd ddim yn defnyddio arian parod i ddefnyddio’r maes parcio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad gan egluro, ers cyflwyno taliadau maes parcio ledled y sir yn 2015, mai’r unig ddull o dalu am barcio oedd peiriant talu ac arddangos yn y maes parcio.  Dim ond â darnau arian oedd modd talu wrth y peiriannau hynny, ac roedd yn rhaid i'r cwsmer fod â’r swm cywir o arian i brynu tocynnau talu ac arddangos gan na allai'r peiriannau roi newid.

 

            I wella’r profiad i gwsmeriaid, roedd opsiwn i gyflwyno ffyrdd o dalu heb ddefnyddio arian parod fel dewis amgen i beiriannau talu ac arddangos ac i gyd-fynd â’r dull presennol o dalu ag arian parod.  System dalu dros y ffôn oedd hon, a oedd eisoes wedi cael ei chyflwyno yn holl feysydd parcio awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru.  Roedd yn ffordd ddiogel o dalu am barcio dros y we, neges destun, ar y ffôn neu drwy ap ar ffon clyfar.

 

            Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) fod angen i’r cwsmer gofrestru gyda’r darparwr gwasanaeth pan oeddent yn ei ddefnyddio’r tro cyntaf.  Roedd y system yn ffordd gyfleus o dalu ar y diwrnod, ond gallai’r cwsmer hefyd archebu parcio am fwy o amser, fel wythnos, mis neu docyn tymor.

 

            Ni fyddai’n rhaid i gwsmeriaid ddangos tocyn parcio a gallent dalu i aros am fyw o amser heb orfod dychwelyd i’w car drwy dalu ffi fechan.

 

            Nid oedd unrhyw gostau sefydlu ac roedd yr arwyddion a’r system cefn swyddfa yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim.  Byddai taliadau â darnau arian yn parhau i gael eu derbyn ym mhob maes parcio.

 

            Croesawai’r Cynghorydd Johnson yr adroddiad a’r wybodaeth am drefi a dinasoedd eraill lle gallai’r ap gael ei defnyddio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi cyflwyno system dalu heb arian parod mewn meysydd parcio.