Mater - cyfarfodydd

Food Service Plan 2021-22 for Flintshire County Council

Cyfarfod: 18/01/2022 - Cabinet (eitem 103)

103 Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2021-22 ar gyfer Cyngor Sir Y Fflint pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2021-22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac esboniodd fod y Cynllun Gwasanaeth Bwyd yn darparu trosolwg o’r Gwasanaeth Bwyd yn unol â’r Cytundeb Fframwaith ar Reolau Bwyd a Phorthiant Swyddogol gan Awdurdodau Lleol Ebrill 2010.  Roedd y cynllun yn nodi nodau ac amcanion y Gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod, a sut y byddai’r rhain yn cael eu cyflawni.

 

            Roedd Cynllun 2021-22 wedi cael ei oedi oherwydd y pwysau ar y gwasanaeth o ganlyniad i’r pandemig byd-eang, a hefyd oherwydd bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi bod yn hwyr yn cyhoeddi’r Cynllun Adfer.

 

            Amlinellodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y prif gyflawniadau ar gyfer 2020-21, a’r targedau ar gyfer 2021-22.

 

            Diolchodd yr Aelodau i’r tîm am y gwaith yr oeddent wedi’i wneud.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun y Gwasanaeth Bwyd ar gyfer 2021-22.