Mater - cyfarfodydd

Climate Change Strategy

Cyfarfod: 08/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 64)

64 Strategaeth Newid Hinsawdd pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Ym mis Rhagfyr 2019, ymrwymodd y Cyngor i ddatblygu cynllun gweithredu i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030 yn unol â gofyniad Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus. Mae ein Rheolwr Rhaglen yn cyflwyno’r ddogfen strategaeth ddrafft sy’n cynnwys manylion am ein cynllun i gyflawni’r targed hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad eglurodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod yr awdurdod wedi penderfynu bod yn garbon niwtral yn 2019. Mae Alex Ellis wedi’i benodi’n Rheolwr Rhaglen i ddatblygu’r Strategaeth Newid Hinsawdd. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf ac yna i’r Cyngor Sir.

 

            Dywedodd Rheolwr y Rhaglen fod Llywodraeth Cymru, yn 2019, wedi galw ar awdurdodau sector cyhoeddus i fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Ym mis Rhagfyr 2019 penderfynodd y Cabinet ddatblygu Strategaeth Newid Hinsawdd sy’n nodi cynigion y Cyngor i fod yn gyngor carbon niwtral erbyn 2030. Mae’r Cyngor wedi darparu gweithgareddau datgarboneiddio ers sawl blwyddyn, yn cynnwys cynlluniau ynni ac ynni adnewyddadwy. Mae’r Strategaeth Newid Hinsawdd yn nodi amcanion y Cyngor i symud tuag at y nod sero net a darparodd drosolwg o’r gwaith ymgysylltu sydd wedi’i wneud a’r adborth a dderbyniwyd. Gan gyfeirio at y strategaeth, darparodd wybodaeth am ffigyrau allyriadau gwaelodlin ac amlygodd y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma a’r amcanion arfaethedig i leihau allyriadau uniongyrchol yn y sir. Mi fydd yna oblygiadau ariannol yn nhermau refeniw a chyfalaf a bydd angen rhoi sylw pellach i’r camau gweithredu dan bob thema er mwyn deall y goblygiadau o ran adnoddau. Mae’r Cyngor wedi defnyddio sawl ffynhonnell ariannu a rhagwelir y bydd cyllid ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru.

 

            Cyfeiriodd Rheolwr y Rhaglen at y strategaeth ac amlygodd y pwyntiau canlynol:

 

·         Dan bwynt 6.7 ar dudalen 53 – gwybodaeth am ffigyrau gwaelodlin allyriadau carbon yn seiliedig ar ddata allyriadau 2018/19. Cadarnhaodd fod yna ostyngiad o 17% yn y waelodlin honno yn 2021.

 

·         Dan bwynt 7.1 ar dudalen 55 – mae’r siart yn rhagfynegi’r gostyngiadau y gallai’r camau gweithredu eu cyflawni ond mae hynny’n gadael bwlch o 20,000 mewn C02 erbyn 2030. Eglurodd fod mesurau nad ydynt ar gael eto ac y byddai hyn yn cael ei fonitro a’i ystyried pan fydd y strategaeth yn cael ei hadolygu ymhen dwy flynedd. Mae mantoli allyriadau gyda phlannu coed wedi’i amlinellu a byddai ar y Cyngor angen blaenoriaethu sut mae asedau tir yn cael eu neilltuo ar gyfer hyn.

 

·         Dan bwynt 7.10 ar dudalen 57 – mae hyn yn amlygu’r targedau dros dro dan y themâu allyriadau carbon uniongyrchol.

 

·         Dan bwynt 8.1 ar dudalen 58 – darparwyd crynodeb o’r nodau allweddol dan bob thema.

 

·         Mae bioamrywiaeth wedi’i integreiddio yn y strategaeth, gan roi ystyriaeth i newid hinsawdd a datgarboneiddio. Darparwyd gwybodaeth am sut mae’r rhain yn cael eu cynnwys a’r hyfforddiant sydd ei angen.

 

            Eglurodd Rheolwr y Rhaglen y byddai’r Cyngor, drwy gyrraedd y nodau hyn, yn gallu cyrraedd ei dargedau sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r targed Cymru Sero Net erbyn 2050. Byddai’r Cyngor hefyd yn cyrraedd ei nodau dan Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol a Llesiant a Deddf yr Amgylchedd. Gorffennodd drwy ddweud fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf a bod gwaith yn cael ei wneud dan bob thema i nodi’r statws presennol a’r goblygiadau o ran adnoddau.

 

 

            Gan ymateb i gwestiwn gan  ...  view the full Cofnodion text for item 64