Mater - cyfarfodydd

Climate Change Strategy

Cyfarfod: 15/02/2022 - Cabinet (eitem 114)

114 Strategaeth Newid Hinsawdd pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Ennill cytundeb ac ymrwymiad i’r Strategaeth Newid Hinsawdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd yn 2019 bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi galw ar y Sector Cyhoeddus i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.   Yn dilyn y datganiad hwnnw, roedd y Cabinet wedi penderfynu ym mis Rhagfyr 2019 ar Strategaeth Newid Hinsawdd a fyddai’n gosod amcanion allweddol a chamau i greu Cyngor carbon niwtral erbyn 2030. 

 

            Roedd y Strategaeth Newid Hinsawdd yn manylu’r gwaith a wneir gan y Cyngor hyd yma: ei allyriadau carbon llinell sylfaen; a meysydd oedd angen eu datblygu ac amcanestyniad o’r cyflwr yn y dyfodol os bydd y camau hynny’n cael eu cwblhau i yrru’r Cyngor tuag at ei nod carbon niwtral/di-garbon erbyn 2030. 

 

            Dywedodd fod pawb yn gyfrifol am helpu i gyrraedd nod carbon niwtral.  Yr ysgol newydd ym Mynydd Isa fyddai’r cyntaf yn y sir i fod yn garbon niwtral.  Diolchodd i bawb oedd wedi cyfrannu, gan gynnwys yr Aelod Cabinet blaenorol a oedd wedi bod yn allweddol i’w yrru ymlaen. 

 

            Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad oedd yn gynhwysfawr a chadarnhaol, gan ychwanegu ei fod wedi’i annog gan y diddordeb a ddangoswyd yn y pwnc gan y bobl ifanc. 

 

            Diolchodd y Prif Swyddog (yr Amgylchedd a’r Economi) i’r Cynghorydd Sean Bibby oedd yn Gadeirydd y Bwrdd Newid Hinsawdd ac roedd wedi arwain cynhyrchu’r ddogfen i Aelodau. 

 

            Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Butler, eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod newid hinsawdd yn chwarae rhan allweddol o’r strategaeth o fewn ysgolion ac yn y gwasanaeth ieuenctid, oedd yn darparu cefnogaeth i bobl 11-25 oed. 

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai brîff ar leihau carbon yn cael ei ddarparu i Aelodau newydd yn dilyn yr etholiad a byddai hefyd yn ffurfio rhan o’r rhaglen gynefino.  Byddai’r wefan hefyd yn cael ei diweddaru.           

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod cynnydd a wnaed i gyflawni mesurau lleihau carbon hyd yma yn cael ei gydnabod;

 

(b)       Bod y Strategaeth Newid Hinsawdd ar gyfer 2022 - 2030 a’i nod yn cael ei gymeradwyo.

 

(c)        Bod brîff ar gyfer Aelodau newydd yn dilyn yr etholiad yn cael ei drefnu i amlygu’r gwaith a wnaed hyd yma ac ymrwymiadau’r Cyngor wrth symud ymlaen, a bod y Strategaeth Newid Hinsawdd yn rhan o Raglen Gynefino’r Aelodau; a

 

(d)       Bod gwefan y Cyngor yn cael ei ddiweddaru i gynnwys y Strategaeth Newid Hinsawdd;