Mater - cyfarfodydd

Capital Programme 2022/23 – 2024/25

Cyfarfod: 07/12/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 63)

63 Rhaglen Gyfalaf 2022/23 – 2024/25 pdf icon PDF 550 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2022/23 – 2024/25 i'w chymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Gyfrifydd yr adroddiad a oedd yn cyhoeddi’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer cyfnod 2022/23–2024/25 i’w chymeradwyo, gan roi cyflwyniad PowerPoint.

 

Roedd Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn cynnwys buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian.  Roedd yr asedau’n cynnwys adeiladau (fel ysgolion, cartrefi gofal a chanolfannau dydd), isadeiledd (fel priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff), ac asedau nad ydynt yn perthyn i'r Cyngor (fel gwaith i wella ac addasu cartrefi'r sector preifat).  Roedd y buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig oedd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau gwasanaethau a Chynllun y Cyngor.

 

Roedd gan y Cyngor adnoddau cyfalaf cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru (LlC) i gefnogi blaenoriaethau, anghenion ac atebolrwydd y Cyngor.  Fodd bynnag, roedd ganddo bwerau i ariannu cynlluniau cyfalaf drwy fenthyg – roedd hyn yn gynllun dros dro, ac roedd cost ac ad-daliad unrhyw fenthyciad yn cael ei godi ar gyllideb refeniw’r Cyngor.  Ystyriwyd cynlluniau a oedd yn cael eu hariannu drwy fenthyca yn ofalus oherwydd yr effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor.

 

Rhannwyd adroddiad Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor yn dair adran:

 

1.    Statudol / Rheoleiddiol – dyraniadau i fodloni gwaith rheoleiddiol a statudol.

2.    Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith isadeiledd sy’n angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.

3.    Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith sy’n angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.

 

Darparwyd manylion pob tabl o fewn yr adroddiad, a oedd yn rhan o’r cyflwyniad, ac yn cael eu cefnogi gan esboniadau yn yr adroddiad ar bob tabl.

 

Darparwyd gwybodaeth hefyd am gynlluniau posib’ yn y dyfodol, a oedd hefyd wedi’u manylu yn yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts a’u heilio gan y Cynghorydd Paul Johnson.

 

Croesawai’r Cynghorydd Roberts yr adroddiad a dywedodd ei bod yn bleser argymell y rhaglen gyfalaf arfaethedig i’w chymeradwyo, gan ddweud ei bod yn rhaglen gyfalaf gyfunol ar gyfer y Cyngor cyfan.  Roedd y rhaglen yn uchelgeisiol ac roedd yn dangos, fel Cyngor, fod ymrwymiad i ofalu am bobl diamddiffyn.  Croesawai’r cynlluniau a amlinellwyd ar gyfer ysgolion, ynghyd â’r ysgol newydd yn lle Ysgol Croes Atti, sef yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyntaf i gael ei hadeiladu yn Sir y Fflint fel strwythur carbon niwtral.  Gwnaeth sylw am yr ymrwymiad i Theatr Clwyd a’r prosiect archif newydd, a chroesawai’r gwariant ar Orsaf Trosglwyddo Gwastraff Standard Yard, a fyddai’n sicrhau y gallai’r Cyngor gyrraedd y targed ailgylchu o 70% a osodwyd gan LlC.  Gofynnodd am gefnogaeth gan Aelodau ar draws y siambr ar gyfer yr ystod helaeth o ymrwymiadau oedd wedi’u cynllunio ar gyfer y sir gyfan.

 

Roedd y Cynghorydd Peers hefyd yn croesawu’r adroddiad, a oedd yn dangos ymrwymiad i’r sir gyfan.  Yngl?n â gwaith ar adeiladau ysgolion, gofynnodd sut y byddai’r Cyngor yn mynd i’r afael â’r llwyth o  ...  view the full Cofnodion text for item 63