Mater - cyfarfodydd

Annual Audit Summary for Flintshire County Council 2020/21

Cyfarfod: 14/03/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 58)

58 Crynodeb Archwilio Blynyddol Sir y Fflint 2020/21 pdf icon PDF 109 KB

Derbyn y Crynodeb Archwilio Blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a nodi ymateb y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol y Crynodeb Archwilio Blynyddol oedd yn crynhoi casgliadau gwaith archwilio a rheoleiddio a wnaed yn y Cyngor gan Archwilio Cymru (AC) yn ystod 2020/21.  Roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol ar y cyfan, heb unrhyw argymhellion ffurfiol wedi'u gwneud yn ystod y flwyddyn.  Mae manylion am ymateb y Cyngor i’r cynigion am welliant yn yr eitem Sicrwydd Rheoleiddio Allanol ar yr agenda.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr grynodeb o gyflawniadau allweddol megis cwblhau datganiadau ariannol y Cyngor yn gynnar i safon dda, cydnabyddiaeth o strategaeth cyfathrebu clir ac arweinyddiaeth gref o adferiad y Cyngor o effaith y pandemig.  Dywedodd bod llai o wybodaeth gymharol am berfformiad yn adlewyrchiad o effaith y pandemig ar bob cyngor. Er bod cydnabyddiaeth fod y sefyllfa o ran dyledion rhent wedi sefydlogi, roedd rhagor o gyfleoedd yn cael eu harchwilio i wella perfformiad ac ymgysylltu â thenantiaid.

 

Gan ymateb i gwestiwn Allan Rainford ar adnabod ffyrdd gwahanol o weithio, dywedodd Gwilym Bury fod yr adroddiad yn nodi casgliadau gwaith archwilio yn ystod 2020/21 ac yn cydnabod y pwysau aruthrol sy’n deillio o’r pandemig.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan Allan Rainford a’i eilio gan y Cynghorydd Janet Axworthy.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau gan gynnwys a sylwadau Adroddiad Archwilio Cryno Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2020/21.