Mater - cyfarfodydd

Vehicle Permit Criteria for Household Recycling Centres

Cyfarfod: 11/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 58)

58 Diweddariad ar Drwyddedau Faniau pdf icon PDF 109 KB

Derbyn diweddariad yn ôl cais y Pwyllgor ar 14 Medi 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cadarnhaodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod y Cabinet wedi gofyn am adolygiad yn dilyn y ddau weithdy a gynhaliwyd i aelodau fis Gorffennaf 2021. Cynllun pasys cerbyd yw’r ffordd decaf i sicrhau mynediad a phenderfynu ar ddefnydd anghyfreithlon gan fasnachwyr. Roedd yr adborth o’r gweithdai ym mis Gorffennaf 2021 yn dweud bod y polisi’n ddryslyd ac yn amwys, sydd, yn anfwriadol, wedi arwain at fasnachwyr yn camddefnyddio’r system ac yn gwaredu gwastraff masnachol, nad ydym i fod i’w dderbyn, yn ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Mae problemau wedi bod ar y safleoedd gyda staff yn profi cam-drin geiriol a chorfforol, a hynny wedi arwain at alw’r heddlu.

 

            Pwrpas yr adolygiad oedd gwneud y polisi’n gliriach, yn llai amwys ac yn haws ei ddeall. Roedd hefyd yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd gan adael i fasnachwyr ddod â’u gwastraff cartref i’r safle (e.e. plymiwr yn dod â gwastraff gardd yn defnyddio pas untro). Unwaith eto, mewn ymateb i adborth yn ystod y gweithdai i Aelodau, cynigiwyd system archebu ar gyfer asbestos a deunyddiau peryglus eraill a matresi mawr. Cyfeiriodd at Atodiad 1 sy’n amlinellu’r newidiadau allweddol a soniodd y bydd angen pas ar gyfer pob trelar, beth bynnag ei faint. Mae’r broses ymgeisio ar-lein bellach yn gliriach ac yn cyfyngu ar y gwrthdaro gan fod hynny wedi’i wneud ar y safle o’r blaen. Bydd pasys yn cael eu neilltuo i safleoedd penodol i ddirymu’r angen i ddeiliaid pasys deithio i wahanol safleoedd i waredu eu gwastraff. Bydd y system newydd yn cael ei chyflwyno fis Ebrill 2022 er mwyn rhoi amser i’r gwasanaeth gyfathrebu gyda deiliaid pasys presennol ac egluro’r gofynion newydd a hysbysebu’r system newydd. Bydd taflenni’n cael eu darparu cyn y dyddiad cyflwyno ym mis Ebrill er mwyn caniatáu cyfnod gras. Mae Atodiad 2 yn amlygu’r polisi casglu presennol. Bydd rhwystrau hefyd yn cael eu gosod ar y safle i helpu’r staff. Mae gwybodaeth am y system archebu ar gael yn Atodiad 3.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas am eglurhad ynghylch maint y trelars a ganiateir ar y safle a lle mae modd cael y pasys. Dywedodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod modd dod â threlar o unrhyw faint ar y safle, yn rhad ac am ddim. Mae yna broses ar-lein i wneud cais am bas wedi’i ddarparu yn Alltami gyda gwiriadau gweledol a ffotograffau ar-lein. Mae hyn yn gweithio’n dda ac wedi bod ar waith ers blwyddyn. Mae Swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu yn dal yn darparu cymorth ar gyfer hyn ac mae staff Alltami yn cynnal asesiadau. Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint yn ardderchog ac yn darparu gwasanaeth gwych i drigolion gyda staff sy’n barod iawn eu cymwynas.

           

            Gofynnodd y Cadeirydd a oes modd dod â cherbydau gydag arwyddion busnes arnynt i’r safleoedd. Mewn ymateb, dywedodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) bod modd i bobl gael dau bas untro bob blwyddyn i ddod â cherbydau busnes i’r safleoedd ar yr amod eu bod  ...  view the full Cofnodion text for item 58