Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2021-22 Mid-Year Performance Reporting

Cyfarfod: 07/12/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 46)

46 Cynllun y Cyngor 2021-22 Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddogion yr adroddiad monitro canol blwyddyn i adolygu cynnydd yn erbyn eu blaenoriaethau perthnasol fel y’u nodwyd ym Mesurau Adrodd 2020/21 y Cyngor, o dan gylch gorchwyl y Pwyllgor.  Mae’r adroddiad seiliedig ar eithriadau hwn yn canolbwyntio ar feysydd o dan-berfformiad yn erbyn targedau a osodwyd ar gyfer y flwyddyn.

 

Roedd gan Gynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi dri dangosydd â statws coch o ganlyniad i berfformiad presennol yn erbyn y targed. Y prif ffactorau cyfrannol oedd heriau recriwtio a newidiadau mewn arferion gweithio oherwydd yr ansicrwydd parhaus y mae'r pandemig yn ei achosi.

 

Effaith y pandemig hefyd oedd y prif reswm am y tri dangosydd coch ym mhortffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant. O ran ailgylchu, roedd perfformiad yn is na'r targed o ganlyniad i gynnydd mewn gwastraff gweddilliol.

 

Canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton y tîm Gwasanaethau Stryd am eu gwaith yn ystod y tywydd garw diweddar. Cydnabu’r heriau o ran recriwtio, yn enwedig mewn gofal cymdeithasol, sy’n broblem genedlaethol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) bod gwaith ar y gweill ar draws y portffolios i ddynodi meysydd sy'n cael anhawster recriwtio i swyddi gwag.

 

O ran perfformiad ailgylchu, gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks i’r aelodau annog preswylwyr i chwarae eu rhan i helpu i gyrraedd y targed o 70%.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Derek Butler at ffair swyddi lwyddiannus ddiweddar.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r dangosyddion perfformiad canol blwyddyn ar gyfer Adfer, Portffolio ac Atebolrwydd Cyhoeddus i fonitro meysydd o danberfformiad.