Mater - cyfarfodydd

Flintshire Housing Need Prospectus

Cyfarfod: 16/11/2021 - Cabinet (eitem 65)

65 Prosbectws Angen o Ran Tai yn Sir y Fflint pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Bod y Cabinet yn cefnogi Prosbectws Angen o Ran Tai yn Sir y Fflint ymlaen llaw cyn ei drosglwyddo ymhellach i Lywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o ofyniad Llywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol gynhyrchu prosbectws anghenion o ran tai a fyddai’n hysbysu’r Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol.

 

            Byddai’r prosbectws yn hysbysu’r cyflenwad o dai fforddiadwy, yn siapio’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol drwy nodi blaenoriaethau’r Awdurdod Lleol ac yn darparu canllaw o ran y math o dai sydd eu hangen ac yn lle.

 

            Y gobaith yw y bydd darparwyr tai yn cyfeirio at y prosbectws wrth iddynt edrych ar ddatblygu safleoedd tai fforddiadwy er mwyn iddynt gynllunio i ddarparu cynlluniau sy’n cyflawni blaenoriaethau’r Awdurdod Lleol ac yn diwallu anghenion tai’r ardal yn well.

 

            Mae Prosbectws Anghenion Tai drafft Sir y Fflint wedi’i lunio ar y cyd â’r Gwasanaethau Cymdeithasol, y tîm Digartrefedd a’r Adain Gynllunio ac mae’n adlewyrchu gofynion y Cyngor ar hyn o bryd ar wasanaethau a’r uchelgeisiau sydd yn Strategaeth Tai Sir y Fflint 2019-24.

 

            Eglurodd Rheolwr y Strategaeth Dai fod hyn yn darparu ffordd gydlynus i gymdeithasau tai, Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Leol gydweithio i sicrhau bod y mathau cywir o dai yn cael eu darparu i bobl leol. Mae’r prosbectws yn darparu manylion y sefyllfa bresennol, gan gynnwys y pwysau presennol mewn perthynas â thai.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad sy’n delio â phob agwedd ar yr angen o ran tai yn y sir, yn enwedig ar gyfer trigolion diamddiffyn. Roedd hefyd yn falch o weld cydnabyddiaeth ar gyfer yr angen am eiddo o fwy o faint.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys Prosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint.