Mater - cyfarfodydd
Council Tax Base for 2022/23
Cyfarfod: 16/11/2021 - Cabinet (eitem 70)
70 Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23 PDF 100 KB
Pwrpas: Cymeradwyo Sylfaen Treth y Cyngor am flwyddyn ariannol 2022/23 fel rhan o broses gosod y gyllideb refeniw a gosod Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn newydd.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 for Council Tax Base for 2022/23, eitem 70 PDF 15 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod gosod Sylfaen Treth y Cyngor yn rhan ganolog o’r broses i osod y Gyllideb Refeniw a Threth y Cyngor ar gyfer 2022/23, gan ganiatáu i’r Cyngor, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned gyfrifo Praesept Treth y Cyngor at y flwyddyn nesaf.
Dywedodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael fod y sylfaen wedi’i chyfrifo yn seiliedig ar 65,194 o eiddo Band ‘D’, ar ôl ystyried cyfanswm yr eiddo a fyddai’n gorfod talu Treth y Cyngor, gan dynnu’r rhai sydd wedi’u heithrio rhag talu Treth y Cyngor neu lle rhoddir gostyngiadau statudol.
Mae gosod sylfaen y dreth yn seiliedig ar 65,194 o eiddo Band ‘D’ hefyd yn cynrychioli twf ymylol yn y Sylfaen Dreth o 0.26% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a oedd gyfwerth â chynnydd o 168 eiddo Band D ar ôl ystyried symudiad naturiol mewn gostyngiadau ac eithriadau.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Sylfaen Dreth yn seiliedig ar 65,194 o eiddo Band D at ddibenion gosod treth ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23;
(b) Parhau i osod disgownt o ‘ddim’ ar gyfer eiddo dan unrhyw un o’r Dosbarthiadau Rhagnodedig (A, B neu C) a bod hynny'n berthnasol i’r sir gyfan;
(c) Parhau i osod premiwm o 50% ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi sy’n dod o dan gynllun Premiwm Treth y Cyngor yn 2022/23.