Mater - cyfarfodydd

Capital Programme 2022/23 – 2024/25

Cyfarfod: 16/11/2021 - Cabinet (eitem 63)

63 Rhaglen Gyfalaf 2022/23 – 2024/25 pdf icon PDF 586 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2022/23 – 2024/25 i’w hargymell i’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022/23 – 2024/25 i’w hargymell i’r Cyngor.

 

Mae Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn cynnwys buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian. Mae’r asedau’n cynnwys adeiladau (fel ysgolion, cartrefi gofal a chanolfannau dydd), isadeiledd (fel priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff) ac asedau nad ydynt yn eiddo i'r Cyngor (fel gwaith i wella ac addasu cartrefi sector preifat). Mae’r buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig a amlinellir yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau gwasanaethau a Chynllun y Cyngor.

 

Mae’r adroddiad yn rhannu Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor yn dair adran:

 

  1. Statudol / Rheoleiddiol – dyraniadau ar gyfer gwaith rheoleiddiol a statudol
  2. Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith angenrheidiol i isadeiledd er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth a busnes
  3. Buddsoddi – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ail-lunio gwasanaethau i wneud arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u nodi mewn cynlluniau busnes portffolios a buddsoddi mewn gwasanaethau fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor

 

Yn hanesyddol, mae’r rhan fwyaf o raglen y Cyngor wedi’i hariannu gan dderbyniadau cyfalaf a grantiau. Mae gallu’r Cyngor i gynhyrchu derbyniadau cyfalaf sylweddol yn heriol gan fod nifer yr asedau sydd gan y Cyngor i’w gwaredu yn lleihau. Bydd y Cyngor yn manteisio ar bob cyfle i nodi asedau i’w gwerthu a ffynonellau eraill o arian, fel grantiau penodol a chyfraniadau refeniw. Fodd bynnag, bydd ar y Cyngor angen defnyddio benthyca darbodus i gyllido mwy o’r rhaglen i’r dyfodol, yn arbennig rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif a bydd angen ariannu cynlluniau eraill sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglen fuddsoddi yn defnyddio benthyca darbodus hefyd.

 

O ystyried y sefyllfa bresennol wrth bennu’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y tair blynedd nesaf (2022/23 – 2024/25), mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i gynlluniau newydd arfaethedig i’w cynnwys oherwydd, os na fydd ffynonellau ariannu eraill yn dwyn ffrwyth, bydd yn rhaid i’r Cyngor ddefnyddio benthyca darbodus i ariannu gweddill y rhaglen.

 

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi nodi ei hymrwymiad cyfreithiol i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050 ac i weithio tuag at sector cyhoeddus sero net erbyn 2030. Un o flaenoriaethau allweddol y Cyngor yng Nghynllun y Cyngor yw dod yn gyngor sero net erbyn 2030 a chefnogi gweithgareddau datgarboneiddio ehangach ar draws y sir. Mae’r rhaglen gwaith cyfalaf yn chwarae rhan allweddol i gyflymu'r newid tuag at gyrraedd y targed. Mae cynnwys y flaenoriaeth honno yn y rhaglen yn atgyfnerthu’r ymrwymiad i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion llawn y tablau yn yr adroddiad, yn arbennig tabl 4 sy’n darparu manylion y dyraniad arfaethedig ar gyfer 2022/23-2024/25. Eglurodd fod y dyraniad blynyddol ar gyfer y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd wedi cynyddu o £600,000 i filiwn o bunnau. Mae tabl 5 yn darparu crynodeb o’r Rhaglen Gyfalaf, gan fanylu ar sut y bydd y rhaglenni’n cael eu hariannu.

 

Croesawodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad gan dynnu sylw  ...  view the full Cofnodion text for item 63