Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 6)

Cyfarfod: 16/11/2021 - Cabinet (eitem 68)

68 Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 6) pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2021/22 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 6 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn darparu diweddariad misol ar gyllideb Cronfa'r Cyngor a chyllideb y Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r adroddiad hefyd yn darparu rhagolwg o sefyllfa derfynol blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Mae’r adroddiad yn nodi y bydd y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r adenillion yn sgil cynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, fel a ganlyn:

 

Cronfa’r Cyngor

  • Gwarged gweithredol o £0.227 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.045 miliwn ers ffigur y gwarged a adroddwyd ym Mis 5, sef £0.182 miliwn
  • Rhagwelir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2022 yn £6.322 miliwn

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.755 miliwn yn uwch na’r gyllideb

·         Rhagwelir mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2022 fydd £3.717 miliwn

 

Mae yna bwysau sylweddol o hyd ar leoliadau y tu allan i’r sir, yn sgil effeithiau blwyddyn gron lleoliadau newydd a wnaethpwyd yn 2020/21, yn cynnwys nifer o leoliadau drud a gytunwyd arnynt fis Mawrth ar ôl pennu’r gyllideb ar gyfer 2021/22. Mae cyfraniad o £0.500 miliwn wedi’i wneud o Gronfa Adfer Gofal Cymdeithasol, sy’n gadael gorwariant rhagamcanol o £0.851 miliwn ar gyfer gweddill y flwyddyn. Fodd bynnag, mae’n debygol o gynyddu gan fod 6 mis arall o’r flwyddyn ar ôl.

 

Rydym yn aros am ragor o fanylion gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddiad yngl?n â £42.72 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar draws Cymru. Byddai’r grant yn cefnogi Gwasanaethau Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig, taliadau uniongyrchol i ofalwyr di-dâl, ymyrraeth gynnar ac atal, ynghyd â gwella hysbysebu a recriwtio ar gyfer swyddi gofal cymdeithasol. Byddai modd neilltuo’r cyllid ar gyfer pwysau ariannol presennol y portffolio, a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar y sefyllfa derfynol.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad hefyd yn manylu ar y sefyllfa fesul portffolio; amrywiadau sylweddol y mis hwnnw; cyflawniad arbedion effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn; cyllid brys, cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.

 

Eglurodd y rhesymau dros y symudiad ffafriol yn y gorwariant rhagamcanol, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol ragamcanol ar gyllideb 2021/22.