Mater - cyfarfodydd

Public Services Ombudsman for Wales Annual Letter 2020-21 and complaints made against Flintshire County Council during the first half of 2021-22

Cyfarfod: 15/02/2022 - Cabinet (eitem 121)

121 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf icon PDF 152 KB

Pwrpas:        Rhannu Llythyr Blynyddol 2020-21 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chwynion a wnaed yn erbyn Gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint yn hanner cyntaf 2021-22 (Ebrill-Medi 2021).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad a’r diben oedd rhannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020-21 ar gyfer Cyngor Sir y Fflint. 

 

            Roedd Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon yn rhoi trosolwg o berfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â chwynion a ymchwiliwyd yn 2020-21. 

 

            Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o gwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio i’r Cyngor rhwng y cyfnod 1 Ebrill - 30 Medi 2021. 

 

            Roedd y nifer o gwynion a dderbyniwyd gan yr Ombwdsmon am awdurdodau lleol ar draws Cymru wedi gostwng 12.5% yn 2020-21 oedd yn adlewyrchu’r gostyngiad mewn cwynion a adroddir arnynt gan awdurdodau lleol yn ystod y pandemig Covid-19. 

 

            Roedd yr Ombwdsmon wedi ymyrryd (wedi cadarnhau, setlo neu ddatrys yn fuan) yn yr un gyfran o gwynion am gyrff cyhoeddus, 20% o’i gymharu â 2019-20.

 

            Roedd 35 o gwynion Sir y Fflint yn gynamserol ac roedd hynny’n cyfrif am 59% o’r cwynion.    Ar draws Gogledd Cymru roedd cyfartaledd y cwynion cynamserol yn 11.    Roedd y dadansoddiad yn egluro er bod y nifer cyffredinol o gwynion a wnaed yn erbyn Sir y Fflint yn uchel, roedd hynny yn bennaf oherwydd y nifer uwch na’r cyfartaledd o gwynion cynamserol.

 

            Roedd angen adolygu sut yr oedd yr awdurdod yn hybu ei weithdrefnau cwynion ei hun a phwysigrwydd hysbysu achwynwyr am gynnydd eu cwyn i leihau’r nifer o atgyfeiriadau cynamserol i’r Ombwdsmon. 

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y perfformiad blynyddol o’r Cyngor mewn perthynas â chwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2020-21 yn cael ei nodi;

 

(b)       Bod perfformiad hanner blwyddyn 2021-22 y Cyngor mewn perthynas â chwynion a wnaed i wasanaethau yn unol â’i weithdrefnau cwynion yn cael ei nodi; a

 

(c)        Cefnogi’r camau a amlinellwyd yn yr adroddiad i wella’r broses o ddelio â chwynion ar draws y Cyngor.