Mater - cyfarfodydd

Audit Wales review of Town Centre Regeneration

Cyfarfod: 17/11/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 34)

34 Adolygiad Archwilio Cymru o Adfywio Canol Trefi pdf icon PDF 106 KB

Ystyried prif argymhellion adolygiad Archwilio Cymru o Adfywio Canol Trefi ac ymateb y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio’r adroddiad am ganfyddiadau adolygiad Archwilio Cymru ar ‘Adfywio Canol Trefi yng Nghymru’.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r pwysau a’r tueddiadau oedd yn wynebu canol trefi yng Nghymru a chamau a gymerwyd hyd yma gan y sector cyhoeddus i ymateb.

 

Crynhowyd ymatebion y Cyngor i bob un o’r chwe argymhelliad (tri ar gyfer Llywodraeth Cymru a thri yn benodol ar gyfer y Cyngor), fel yr oedd yr adroddiad yn eu nodi.  Wedi iddo gael ei ystyried gan y Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi, rhannwyd yr adroddiad â’r Pwyllgor hwn i ystyried yr ymateb arfaethedig.

 

Croesawai’r Cynghorydd Geoff Collett y nod o gefnogi canol trefi.  Mewn ymateb i sylwadau am ailddyrannu ardrethi annomestig cenedlaethol, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod hwn yn fater cenedlaethol oedd yn cael ei drafod ers tro ac roedd yn parhau i gael ei drafod.  Eglurodd rôl y Cyngor fel cyfrannwr net o ardrethi annomestig a’i sefyllfa fel Cyngor sy’n cael llai o gyllid.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael nad oedd gan y drefn gyllido bresennol unrhyw ddarpariaeth i ailddyrannu trethi i Gynghorau Tref a Chymuned a byddai angen newid y ddeddfwriaeth i wneud hynny.  Darparodd fanylion am y rhyddhad o 100% o ardrethi oedd ar gael i fanwerthwyr drwy’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch gan Lywodraeth Cymru (LlC).

 

Anogodd y Cynghorydd Paul Johnson yr Aelodau i fanteisio ar y cyfle i gymryd rhan mewn ymgynghoriad a fyddai’n dod yn fuan gan LlC am ddiwygio trethi lleol.

 

Yn dilyn sylw gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Joe Johnson am gefnogaeth i farchnadoedd, soniodd y Rheolwr Menter ac Adfywio am waith ymgysylltu â budd-ddeiliaid allweddol yn ystod y cyfnod heriol hwn a chynlluniau i adolygu darpariaeth yn nes ymlaen.

 

Wrth ymateb i’r drafodaeth, fe wnaeth y Cynghorydd Ian Roberts ailadrodd ymrwymiad y Cyngor i gefnogi marchnadoedd canol trefi a chroesawai’r adolygiad.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Joe Johnson ac Arnold Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi argymhellion Archwilio Cymru i’r Cyngor a chymeradwyo’r ymateb arfaethedig i Archwilio Cymru.