Mater - cyfarfodydd

Asset Management Plan 2022 - 2027

Cyfarfod: 23/09/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 24)

24 Cynllun Rheoli Asedau pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Cynllun Rheoli Asedau 2022 - 2027 ar gyfer ei adolygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) y Cynllun Rheoli Asedau ar gyfer 2022-2027 sy’n disodli’r Cynllun blaenorol ar gyfer 2019-2026.   Roedd y ddogfen ddiweddaraf yn adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru (LlC) ar leihau carbon a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn ogystal â Strategaeth Newid Hinsawdd y Cyngor a fabwysiadwyd yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Sam Swash am waredu ffermydd blaenorol ac unrhyw newidiadau a wnaed i’r polisi.   Rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol wybod y byddai modd darparu gwybodaeth benodol am werthiant ffermydd ar wahân ac eglurodd bod y polisi wedi cymryd elfennau amgylcheddol amrywiol i ystyriaeth, ac roedd yn debyg y byddai rhagor o newidiadau i ddeddfwriaeth LlC.

 

Cynghorodd y Rheolwr Asedau, hyd eithaf ei gwybodaeth, bod ffermydd Cyngor a werthwyd bellach yn gweithredu dan berchnogaeth newydd.   Eglurodd y cymal contractio lle byddai caniatâd cynllunio ar gyfer defnydd gwahanol yn golygu bod canran o’r gwerth yn cael ei ddychwelyd i’r Cyngor.

 

Siaradodd y Prif Weithredwr am newidiadau polisi dros y blynyddoedd gan gynnwys annog tenantiaid ifanc i ymgymryd â ffermydd a daliadau, gan symud at ffocws ar hawliau olyniaeth a thenantiaethau busnes fferm, ac roedd rhai o’r rhain wedi arwain at brynu’r ffermydd.   Dywedodd y gellid cynnwys adolygu’r polisi gwaredu ffermydd ar raglen ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

Ceisiodd y Cynghorydd Bernie Attridge wybodaeth am y tabl eiddo gweithredol a rhoddwyd gwybod iddo fod rhagor o fanylion ar gael ar gais gan y system rheoli asedau.  Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybod y byddai Aelodau’n derbyn dolen i fanylion cyhoeddus am berchnogaeth rydd-ddaliadol y Cyngor unwaith y byddant ar gael.   Byddai ymholiad am gyfraniadau tuag at fuddsoddiad yn Theatr Clwyd yn cael ei drafod fel rhan o’r eitem yn nes ymlaen yn y rhaglen.

 

Yn dilyn sylwadau’r Cynghorydd Attridge ar ailddatblygu campws Neuadd y Sir, dywedodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson y dylid adlewyrchu’r lefelau disgwyliedig mewn perthynas â gweithio o gartref er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol yn y Cynllun.   Rhoddodd y Swyddogion wybod, er nad oedd yr amserlenni wedi’u cadarnhau eto, bod ystod o ystyriaethau ynghlwm â’r angen i nodi cyfleusterau democrataidd allweddol ac arbedion posibl drwy ardrethi annomestig.   Yn ystod trafodaeth ar y mater, siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts am Gyfraniad Aelodau ac eglurodd y Prif Weithredwr ddatblygiad y strategaeth gweithio hyblyg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bill Crease, eglurodd y Rheolwr Corfforaethol na fyddai’r tâl gwasanaeth ar gyfer campws 3-16 Mynydd Isa’n fwy na’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad i’r Cabinet a Throsolwg a Chraffu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ibbotson am sail y strategaeth gostwng carbon a adlewyrchwyd yn y Cynllun.   Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod bod yr adroddiad hwn yn un lefel uchel sy’n amlinellu’r cyd-destun strategol ar gyfer cyfeirio at strategaethau a pholisïau amrywiol.  Cadarnhaodd bod Rheolwr Rhaglen Chynllun Gweithredu Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon y Cyngor (Alex Ellis) wedi’i ymgynghori ar y Cynllun ac yn gallu ymateb i gwestiynau penodol ar gais.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Sam Swash, siaradodd y Rheolwr Corfforaethol a’r Rheolwr Asedau  ...  view the full Cofnodion text for item 24