Mater - cyfarfodydd
Overview of Ethical Complaints
Cyfarfod: 01/11/2021 - Pwyllgor Safonau (eitem 26)
26 Trosolwg o Gwynion Moesegol PDF 86 KB
Bod y Pwyllgor yn nodi'r nifer a'r mathau o gwynion.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Overview of Ethical Complaints, eitem 26 PDF 277 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Trosolwg o Gwynion Moesegol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad rheolaidd arferol ar y nifer o gwynion moesegol a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn honni bod y Cod Ymddygiad wedi’i dorri. Dywedodd ers yr adroddiad diwethaf ym mis Gorffennaf 2021, derbyniwyd 5 cwyn, roedd 4 cwyn wedi eu datrys; ac roedd 1 yn parhau’n weddill. Dywedodd am natur a thueddiad y cwynion. Roedd rhestr o’r cwynion mewn ffurf cryno a dderbyniwyd yn ystod 2019/20 ynghlwm â’r adroddiad.
Roedd y Cynghorydd Gladys Healey wedi mynegi pryder bod nifer o gwynion a wnaed oherwydd honiadau o fwlio. Roedd y Swyddog Monitro yn cydnabod y pwynt a wnaed ac yn rhoi gorolwg byr o sut roedd y cwynion wedi eu llunio. Dywedodd nad oedd honiadau o fwlio yn dystiolaeth bod bwlio wedi digwydd mewn gwirionedd.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan Mark Morgan a’i eilio gan y Cynghorydd Gladys Healey
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r nifer a’r math o gwynion.