Mater - cyfarfodydd

Member Induction for 2022

Cyfarfod: 30/09/2021 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 12)

12 Cyflwyniad i Aelodau ar gyfer 2022 pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Gwahodd y pwyllgor i ystyried a chyfrannu at y rhaglen ddrafft sy’n cael ei datblygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ac eglurodd, ar ôl etholiadau’r Cyngor cyfan, oedd yn digwydd ar gylch pum mlynedd, roedd Rhaglen Gynefino i Aelodau yn cael ei chynnig.   Bwriad y rhaglen oedd cynnwys Aelodau newydd a’r rhai sy’n dychwelyd.

 

                        I Aelodau  newydd, byddai’r pwyslais ar roi cyflwyniad i’w rôl newydd a rhannu gwybodaeth i’w galluogi i ddechrau eu datblygiad fel Cynghorydd.

 

                        I Aelodau  sy’n dychwelyd, y nod fyddai adnewyddu gwybodaeth, rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf a sgiliau ychwanegol pan fo angen.

 

                        Roedd y Rhaglen wedi cael ei chyflwyno i Arweinwyr Gr?p ble’r oedd yn cael ei gefnogi.

 

                        Gofynnodd y Cynghorydd Bithell a oedd angen cyhoeddi dyfeisiau RSA i Aelodau o hyd.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd bod y dyfeisiau RSA yn cael eu hadeiladu i’r gliniaduron oedd yn cael eu cyhoeddi i Aelodau erbyn hyn. Mewn ymateb i gwestiwn arall, eglurodd y byddai’r ‘Pwy yw Pwy’ yn rhoi manylion yr uwch swyddogion. Byddai manylion cyswllt swyddogion eraill ar gael ar yr Infonet. Cydnabuwyd y byddai angen amserlen i gyflwyno Aelodau i gyfarfodydd dros y we. Gofynnodd y Cynghorydd Bithell am wybodaeth ynghylch sut gallai Aelodau  eu diogelu eu hunain. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod y ddogfen yn cael ei diweddaru ac y byddai’n cael ei chylchredeg i’r holl Aelodau.  Mewn ymateb i sylw ar broblemau TG, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a’r Arweinydd Tîm - Gwasanaethau Democrataidd yn rhoi manylion gwasanaeth trywydd cyflym sydd ar gael i Aelodau wrth gysylltu â’r Ddesg Gymorth TG.   Awgrymwyd y dylid rhannu’r amserlen gynefino ag ymgeiswyr cyn yr etholiad.

 

                        Roedd y Cynghorydd Smith yn croesawu’r sesiynau gyda’r nos.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Chris Bithell a’u heilio gan y Cynghorydd Ian Smith.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r sylwadau ar Raglen Gynefino Aelodau 2022; a

 

(b)       Cyflwyno’r awgrymiadau i’w cynnwys yn y Rhaglen Gynefino Aelodau i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.