Mater - cyfarfodydd

Consultation on the Removal of Eligible Care Leavers’ Liability for Payment of Council Tax

Cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet (eitem 52)

52 Ymgynghoriad ar gael gwared ar rwymedigaeth pobl gymwys sy’n gadael gofal i dalu Treth y Cyngor pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â’r cynnig i gael gwared ar y risg y gallai pobl sy’n gadael gofal fod yn gyfrifol am dalu Treth y Cyngor pan mae unigolyn arall (nad yw wedi'i eithrio) ar yr aelwyd yn peidio â thalu Treth y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac esboniodd fod pobl 24 oed ac iau sy’n gadael gofal ac yn byw yng Nghymru fel arfer wedi’u heithrio rhag talu Treth y Cyngor ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r rheoliadau am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2019.

 

            Roedd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch cynigion i gael gwared ar y perygl y byddai pobl sy'n gadael gofal yn gorfod talu Treth y Cyngor mewn achosion o atebolrwydd cyd ac unigol mewn amgylchiadau posibl lle bydd person arall yn yr aelwyd, nad yw wedi’i eithrio rhag talu Treth y Cyngor, wedi methu â thalu eu rhan nhw o Dreth y Cyngor.

 

            Er nad yw achosion o’r fath yn gyffredin, er mwyn lliniaru’r perygl y bydd pobl sy'n gadael gofal yn atebol ar y cyd ac yn unigol am fil Treth y Cyngor ar eu cartref, cynigiwyd y dylid addasu’r rheoliadau er mwyn sicrhau y bydd pobl sy'n gadael gofal wedi eu heithrio o fis Ebrill 2022 ymlaen.

 

            Byddai’r darpariaethau ychwanegol, fel y’u hamlinellir yn yr ymgynghoriad, yn sicrhau nad yw pobl sy'n gadael gofal yn atebol yn bersonol am Dreth y Cyngor mewn amgylchiadau lle byddai’r person sy’n gadael gofal yn atebol ar y cyd neu’n unigol am Dreth y Cyngor o ganlyniad i fyw gyda phriod neu bartner, neu mewn aelwydydd sydd â mwy nag un oedolyn.

 

            Croesawodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y cynigion a oedd yn cryfhau’r cymorth mae’r awdurdod yn ei roi i bobl sy’n gadael gofal.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi bwriadau’r polisi fel y’u hamlinellir yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch sicrhau nad yw pobl 24 oed neu iau sy’n gadael gofal yn rhwym i atebolrwydd cyd ac unigol o ran Treth y Cyngor.